Cyflwyno cadair Môn er cof am y bardd Ellis Humphrey Evans

  • Cyhoeddwyd
CadairFfynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y gadair orffenedig efo'r inc, cwyr, lledr a phob addurn arall yn ei le

Bydd seremoni'r Cadeirio'n cael ei chynnal yn ddiweddarach ddydd Gwener yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym Modedern.

Eleni, mae'n 100 o flynyddoedd ers i Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn) ennill y Gadair yn Eisteddfod Penbedw am ei awdl 'Yr Arwr', ac i nodi'r achlysur, cyflwynir y gadair eleni er cof am y bardd.

Eleni, cyflwynir y Gadair am awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau o dan y teitl Arwr neu Arwres.

Mae Eisteddfod Penbedw 1917 yn cael ei hadnabod fel Eisteddfod y Gadair Ddu, lle daeth Hedd Wyn, i'r brig, ac yntau wedi'i ladd ar faes y gad wythnosau cyn y seremoni.

Yn 2017, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn cofio am aberth y bardd ifanc, ynghyd â'r golled o genhedlaeth o fechgyn ifanc i Gymru.

Disgrifiad,

Cadair Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017

Ym mlwyddyn canmlwyddiant y Gadair Ddu, mae'r gadair erbyn hyn wedi'i hadfer i'w gogoniant gwreiddiol, yn barod i gael ei gweld unwaith eto yng nghartref y bardd ifanc yn Nhrawsfynydd.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn adnewyddu Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, ac wrth i'r gwaith ddod i ben, yr Awdurdod sydd wedi rhoi'r gadair newydd eleni.

Coed o dir Yr Ysgwrn

Mae dolen bwysig arall rhwng Hedd Wyn a Chadair Eisteddfod Ynys Môn eleni, gan fod Cadair 2017 wedi'i chreu'n rhannol o ynn a derw a lifiwyd o goed a dyfodd ar dir Yr Ysgwrn, coed a fyddai wedi bod yn tyfu yno yn nyddiau Hedd Wyn ei hun.

Y crefftwr ifanc, Rhodri Owen, sy'n egluro'r syniad tu ôl i'r gadair newydd: "Mae'r syniad o ail-eni a symud ymlaen yn ganolog i gysyniad y Gadair eleni.

"Ond mae'r ddolen gyda'r gorffennol hefyd yn bwysig, ac felly fe fûm yn ystyried siapiau'r offer ac arfau a fyddai'n cael eu defnyddio'n ddyddiol mewn ardal wledig ganrif yn ôl, gan eu datblygu a'u mewnosod yn y cynllun."

Disgrifiad o’r llun,

Ar 31 Gorffennaf 2017 roedd hi'n 100 mlynedd ers i'r bardd Hedd Wyn gael ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Efallai o ddiddordeb...

"Mae'r ddwy goes ôl yn codi tua'r 'lloer' ac ar siâp pladuriau, a gwaelod y cefn ar siâp dau haearn marcio, a fyddai wedi'u defnyddio i farcio'r tywyrch cyn torri'r mawn ym myd amaeth.

"Mae'r ddau siâp cefn wrth gefn yn creu un haearn donni, a fyddai'n torri'r dywarchen ar ôl ei marcio, yn pwyntio tua'r is-fyd, gan gynrychioli tywyllwch a marwolaeth, tra bo pen y Gadair a'r Nod Cyfrin yn cynrychioli goleuni a bywyd newydd.

'Cyswllt Celtaidd'

"Rydw i hefyd wedi cadw mewn cof y ffaith mai ym Môn y cynhelir yr Eisteddfod eleni, ac wrth gwrs, mae'r cyswllt Celtaidd felly'n amlwg, a'r syniad Celtaidd o ail-eni a symud o'r tywyllwch i'r goleuni sydd i'w weld yng nghynllun y Gadair.

"Mae egin bywyd yn codi wrth i'r düwch ildio i oleuni a'r gobaith o fywyd newydd, heddychlon mewn oes o ansicrwydd gwleidyddol byd-eang ac argyfwng hunaniaethol y Cymry."

Ffynhonnell y llun, Geraint Thomas / Panorama Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Gadair ei gwneud â llaw yng ngweithdy Rhodri Owen yn Ysbyty Ifan

"Roedd hi'n bwysig i'r Parc ac i minnau fod y Gadair yn cyfleu ei neges ei hun, ac rwy'n gobeithio fy mod wedi gwireddu hyn, gan roi'r pwyslais ar gamu ymlaen yn hyderus fel cenedl o Gymry i ddyfodol newydd, gwell a heddychlon."

Mae'r wobr ariannol eleni yn cael ei rhoi gan John a Gaynor Walter-Jones, er cof am y Parch a Mrs H Walter Jones.

Beirniaid y gystadleuaeth yw Peredur Lynch, Huw Meirion Edwards ac Emyr Lewis.