Rhybudd am 'broblem' gwerthu ffermydd cyngor achos toriadau
- Cyhoeddwyd
Fe allai awdurdodau lleol orfod gwerthu eu ffermydd yn y dyfodol oherwydd toriadau ariannol fydd yn eu hwynebu, yn ôl cynghorydd sy'n gyfrifol am ffermydd cyngor Ynys Môn.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Parry y bydd y sefyllfa yn "dod yn broblem" mewn blynyddoedd i ddod.
Mae gwaith ymchwil gan y Post Cyntaf yn dangos bod gostyngiad o ychydig dros 10% yn nifer y ffermydd cyngor dros Gymru yn y pum mlynedd diwethaf.
Daw sylwadau Mr Parry ar ddechrau sioeau amaethyddol Ynys Môn a Sir Benfro.
'Diwrnod tywyll'
Wrth siarad â BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Parry y byddai'r toriadau yn cael effaith ar amaeth.
"Mae hynny yn mynd i ddod yn broblem ac efallai y bydd 'na gynghorwyr yn y dyfodol fydd ddim a llawer o ddiddordeb mewn amaeth," meddai.
"Tra medrwn fyddwn ni ddim yn gwerthu mwy. Ond be' sydd i ddigwydd hefo toriadau enfawr sy'n ein hwynebu ni?"
Wrth danlinellu nad yw o blaid gwerthu mwy o dir, dywedodd: "Efallai rhyw ddiwrnod y bydd yn rhaid gwerthu rhan o'r stad... Ond bydd hwnnw yn ddiwrnod tywyll iawn i Ynys Môn."
Ychwanegodd: "Rhaid cofio bod y diwydiant amaeth yn ddiwydiant ar ei ben ei hun. Mae'n iawn i bobl ifanc gael y cyfle i ddod i mewn i'r diwydiant.
"Os da ni isio cadw'r diwydiant amaeth ym Môn dwi'n bendant bod yn rhaid cadw'r manddaliadau."
Ers 2012 mae Cyngor Môn wedi gwerthu tir, tai a ffermydd werth £6m ond mae'r awdurdod yn mynnu bod hynny er mwyn codi safon y ffermdai.
Mae £10m wedi ei wario ar y gwaith yna.
I nifer o ffermwyr ifanc, ffermydd cyngor ydy'r unig ddewis gan fod pris tir mor uchel.
Ar gyfartaledd mae cost tir dros £7,000 yr erw yng Nghymru.
'Amhosib i rywun ifanc'
Mae Gareth ac Ieuan Parry - dau frawd o Lanbabo - yn byw ar fferm gyngor 80 erw, ond does 'na ddim digon o dir i roi cyflog iddyn nhw a'u tad.
Maen nhw'n bendant fod angen cadw stad o ffermydd bach yr ynys.
"Mae ffermydd cyngor yn lifesaver i bobl ifanc. Mae'n gychwyn gwych", meddai Gareth.
"Mae'n amhosib i rywun ifanc brynu fferm oherwydd bod tir mor ddrud.
"Ar y funud dwi'n gweithio i ffwrdd yn Runcorn. Does 'na ddim digon o waith i bobl ifanc fatha fi yn yr ardal."
Dywedodd Ieuan: "Gynno fi dipyn o stoc ond dim digon i gadw fy hun adra.
"Yn y dyfodol dwi'n gobeithio dod 'nôl adra i Sir Fôn a chael fferm gyngor gobeithio."
'Cyfrifoldeb' cynghorau
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn "bwysig bod awdurdodau lleol yn ystyried yn ofalus yr effaith o werthu'r ffermydd yma ar eu cymunedau a dyfodol y diwydiant yng Nghymru".
Ychwanegodd y llefarydd bod y llywodraeth wedi cynyddu cyllidebau cynghorau o £10m eleni, a hynny er "toriadau mewn termau real i'r gyllideb yn ei chyfanrwydd".
Dywedodd hefyd: "Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i gynllunio eu cyllidebau er mwyn defnyddio adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol bosib a chynllunio ar gyfer dewisiadau anoddach sydd o'n blaenau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2017