Cyngor Sir Penfro yn cyhoeddi ei Siarter Iaith

  • Cyhoeddwyd
PlantFfynhonnell y llun, Cyngor Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Siarter Iaith wedi bod yn llwyddiant yn ysgolion Gwynedd

Wrth i Gyngor Sir Penfro baratoi i gyhoeddi ei Siarter Iaith ddydd Iau mae nifer o gynghorau yn dweud bod eu siarteri nhw yn dwyn ffrwyth.

Prif fwriad y siarter yw annog plant i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r dosbarth, a bellach mae sawl cyngor ar draws Cymru wedi cyhoeddi eu Siarteri Iaith.

Mae disgyblion yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd o'u bywydau, yn enwedig yn eu bywyd cymdeithasol.

Cydweithio

Yn ôl Cris Tomos, aelod y cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith, gobaith Cyngor Sir Penfro yw gweithio gyda mudiadau eraill er mwyn cyrraedd y nod.

"Mae hon yn siarter ar gyfer ysgolion uwchradd a chynradd lle fyddwn ni'n annog ysgolion i greu cynghorau Cymreictod o fewn yr ysgolion, ac o dan hynny wedyn, criw Cymreictod, sef disgyblion, i edrych ar be' maen nhw'n teimlo sydd ei angen o fewn yr ysgol ac ar y buarth," meddai.

"Wedyn mi fyddwn ni'n cydweithio gyda mudiadau fel yr Urdd, Merched y Wawr a'r Fenter Iaith gan obeithio y bydd y cynghorau Cymreictod yn clymu mewn gyda hanes, diwylliant a threftadaeth Gymraeg."

Mae'r Siarter Iaith yn gofyn am ymrwymiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol - cyngor yr ysgol, y disgyblion, y gweithlu, rhieni, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach - er mwyn sicrhau perchnogaeth lawn ohoni.

Mae'r siarter yn gwobrwyo ysgolion sy'n llwyddo i greu agwedd bositif tuag at yr iaith gan roi gwobrau aur, arian neu efydd.

Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid i'r iaith fynd mas o'r gaer i'r gymuned," medd y Cynghorydd Glynog Davies

Mae nifer o ysgolion wedi'u gwobrwyo eisoes, gan gynnwys rhai yn Sir Gâr - newyddion sydd wrth fodd y Cynghorydd Glynog Davies sydd â chyfrifoldeb dros addysg.

"Erbyn hyn mae rhyw hanner dwsin wedi cyrraedd y man 'dyn ni'n ei alw'n safon efydd," meddai.

"Maen nhw wedi cyrraedd rhyw fan arbennig, er enghraifft, Bryn Sierfel yn Llanelli a Phenböyr yng ngorllewin y sir.

"Cafodd Siarter Iaith Sir Gâr ei sefydlu yn 2015 gyda'r enw crand Codi Caerau - roeddem am amddiffyn yr iaith a'i chadw hi'n ddiogel yn y sir.

"Ond, cofiwch, mi oedden ni am weld y llifddorau yn agor fel bod yr iaith yn mynd mas o'r gaer i'r gymuned.

"Y nod yw cynyddu'r defnydd mae'r plant yn ei wneud o'r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn anffurfiol."