Parsons Green: Rhyddhau tri dyn o dde Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae tri dyn gafodd eu harestio yn ne Cymru mewn cysylltiad ag ymosodiad ar drên yn Llundain wedi cael eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.
Cafodd 30 o bobl eu hanafu wedi i ddyfais ffrwydro ar drên tanddaearol yng ngorsaf Parsons Green.
Y tri sydd wedi eu rhyddhau yw:
Dyn 25 oed gafodd ei arestio yng Nghasnewydd ar ddydd Mawrth, 19 Medi;
Dyn 30 oed gafodd ei arestio yng Nghasnewydd ar ddydd Mercher, 20 Medi;
Dyn 20 oed gafodd ei arestio yng Nghaerdydd ar ddydd Llun, 25 Medi.
Mae dyn 48 oed a gafodd ei arestio yng Nghasnewydd eisoes wedi cael ei rhyddhau gan yr heddlu.
Ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd yn eu herbyn.
Hyd yma mae saith person wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad i'r digwyddiad yng ngorsaf Parsons Green. Mae un wedi cael ei gyhuddo, a'r chwech arall wedi eu rhyddhau.
Mae Ahmed Hassan, 18 o Sunbury, Surrey wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio ac o osod dyfais ffrwydrol oedd yn debygol o beryglu bywyd neu achosi difrod i eiddo. Bydd yn ymddangos yn llys yr Old Bailey ar 13 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2017
- Cyhoeddwyd21 Medi 2017
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017