Arian ychwanegol i iechyd 'ddim yn hael' ond 'yn ddigon'

  • Cyhoeddwyd
gwely ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys £450m yn ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd dros gyfnod o ddwy flynedd

Dyw'r arian ychwanegol i iechyd yn y gyllideb ddim yn "hael" ond bydd yn gadael i wasanaethau "barhau â'u gwaith hanfodol", yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid.

Dywedodd Mark Drakeford bod dim modd buddsoddi ymhellach achos "polisi llymder gwallus" Llywodraeth y DU.

Mae £450m ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd dros ddwy flynedd yn rhan o gyllideb ddrafft £15bn Llywodraeth Cymru gafodd ei chyhoeddi ddydd Llun.

Mae'r BBC wedi gofyn i Lywodraeth y DU am sylw.

'Methu gwneud mwy'

O'r £450m, bydd £230m yn cael ei roi i'r gwasanaeth iechyd yn 2018-19, sydd gyfystyr â chynnydd o 1% ar ôl chwyddiant. Bydd £220m arall i'r gwasanaeth yn 2019-20.

Dywedodd Mr Drakeford bod pwysau ar y gyllideb iechyd ynghyd ag adrannau eraill.

Gan gyfaddef nad ydy'r buddsoddiad "yn setliad hael" dywedodd y bydd "yn ddigon... i adael i'r gwasanaeth iechyd barhau â'i waith hanfodol" o ystyried eu bod eisoes yn cynllunio i arbed arian yn y dyfodol.

"Fe fuaswn i'n hoffi bod mewn lle i wneud mwy na'r hyn dwi'n gallu ei wneud ac fe fydden ni'n gallu gwneud hynny oni bai bod ein cyllidebau'n cael eu torri yn flynyddol gan bolisïau llymder gwallus a dwl Llywodraeth y DU," meddai.

"Fuaswn i'n gwneud mwy pe bai setliad ariannol gwell gennym ni? Yn sicr buaswn i."

Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyflwynodd Mark Drakeford y gyllideb ddrafft yn y Cynulliad brynhawn Mawrth

Dywedodd y grŵp arbenigol The Health Foundation bod arian ychwanegol yn "bositif" ond y byddai'n rhaid parhau i arbed tua 1% y flwyddyn i fedru "trawsnewid a chynnal" y gwasanaeth.

Yn ôl Adam Roberts, pennaeth iechyd y grŵp, byddai cael gwared â'r cap o 1% ar gyflogau gweithwyr y maes iechyd - rhywbeth na chafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth - hefyd yn gadarnhaol.

Ond mynnodd y byddai'n rhaid i Gymru gael mwy o arian gan y Trysorlys yn Llundain os ydyn nhw'n gwneud hynny, neu fel arall byddai'n "cynyddu'r pwysau'n sylweddol ar gyllidebau presennol".

Cynghorau

Hefyd yn y gyllideb, roedd toriad o 1.5%-2% yng nghyllidebau cynghorau - setliad ychydig yn waeth na'r llynedd.

Dywedodd llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Debbie Wilcox, bod effaith llymder yn "erydu gwasanaethau cyhoeddus".

"Mae'r effaith ar ein gwasanaethau, ein cymunedau sy'n eu defnyddio a'r gweithlu sy'n eu darparu wedi bod yn ddinistriol," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys:

"Rydym eisoes wedi cyhoeddi yn y gwanwyn bydd cyllid llywodraeth Cymru yn cynyddu £200m. Mae hyn yn ychwanegol i'r £400m o gynnydd yn natganiad Hydref 2016.

"Mae'r cynnydd sylweddol i gyllid llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle iddyn nhw benderfynu ar y gwariant, i gefnogi gwasanaethau cymdeithasol a thŵf yng Nghymru".

Bydd manylion y gyllideb llywodraeth leol yn cael eu cyhoeddi'r wythnos nesaf.