Cyngor Gwynedd i ystyried statws ysgol newydd Y Bala
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried a ddylai cyfnod o ymgynghori dechrau ar gynllun i sefydlu ysgol gymunedol yn Y Bala yn hytrach nag ysgol eglwysig.
Bydd y cabinet yn cwrdd ar 24 Hydref i drafod dechrau'r ymgynghoriad statudol ar y cynnig i sefydlu'r campws ar safle Ysgol y Berwyn.
Y cais gwreiddiol gafodd ei gymeradwyo yn 2015 oedd cau Ysgol y Berwyn, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol Bro Tegid ar 31 Awst 2018 a sefydlu campws dysgu ar gyfer disgyblion rhwng 3-19 oed cyfrwng Cymraeg dan statws yr Eglwys yng Nghymru.
Ym mis Mehefin 2017, penderfynodd Cabinet y Cyngor dynnu'r cynnig gwreiddiol yn ei ôl yn dilyn gwrthwynebiad lleol.
Pe bai Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo'r cynllun newydd, ni fyddai'r ysgol yn agor tan Medi 2019, sy'n flwyddyn yn hwyrach na'r cynllun gwreiddiol.
Mae cryn wrthwynebiad wedi bod yn ardal Y Bala ynglŷn â'r statws gyda chyrff llywodraethol ysgolion yr ardal yn dadlau mai ysgol newydd hefo statws cymunedol ddylai hi fod.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, aelod cabinet Cyngor Gwynedd â chyfrifoldeb am addysg fod y cyngor yn "llwyr ganolbwyntio ar sicrhau darpariaeth addysg o'r radd flaenaf i blant a phobl ifanc dalgylch Y Berwyn".
"Er na fydd y campws yn agor yn swyddogol hyd Medi 2019, mae'r gwaith adeiladu yn bwrw ymlaen yn dda," meddai.
Mae cyfarwyddwr addysg a dysgu gydol oes Esgobaeth Llanelwy, Rosalind Williams wedi dweud: "Y flaenoriaeth i ni [Yr Eglwys yng Nghymru] yw anghenion disgyblion yr ysgol sydd yno ar hyn o bryd a'r rhai fydd yno yn y dyfodol.
"Bydd Esgobaeth Llanelwy yn cefnogi'r buddsoddiad o £10m fydd yn galluogi i'r ysgol agor cyn gynted â phosib er mwyn i blant ardal Y Bala a Phenllyn a'r gymuned ehangach allu elwa."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2015