Rhybudd y gallai treth twristiaeth fod yn 'ddinistriol'
- Cyhoeddwyd
Gallai treth twristiaeth yng Nghymru gael "effaith ddinistriol" ar fusnesau ac annog ymwelwyr i beidio dod, yn ôl rhai o fewn y diwydiant.
Bydd Llywodraeth Cymru'n penderfynu yn 2018 a fyddan nhw'n gofyn i weinidogion y DU os allen nhw gyflwyno'r fath dreth - un o bedair posib sy'n cael eu hystyried.
Ond mae busnesau a chyrff o fewn y diwydiant wedi rhybuddio y gallai treth twristiaeth danseilio gwaith y rheiny sy'n ceisio denu ymwelwyr i Gymru.
Dywedodd gweinidogion y byddan nhw'n penderfynu pa drethi newydd maen nhw eu heisiau yn y flwyddyn newydd.
'Niweidiol'
Mae Parc Gwyliau Grondre ger Clunderwen, ar y ffin rhwng Sir Gar a Sir Benfro, yn un o saith parc gwyliau yng Nghymru sy'n eiddo i Vale Holiday Parks, busnes wedi ei leoli yn Aberystwyth.
Dywedodd y perchennog Thomas Scarrott wrth raglen Sunday Politics Wales y byddai treth twristiaeth yn cynyddu pris gwyliau.
"Bydden nhw'n bendant yn talu mwy o arian," meddai.
"Os yw [y dreth] yn dod i Gymru byddai'n cael effaith ddinistriol, nid yn unig ar y diwydiant twristiaeth, ond ar fusnesau eraill sy'n dibynnu ar y diwydiant twristiaeth, tafarndai, siopau, caffis, canolfannau ymwelwyr.
"Byddai'r rhain i gyd yn teimlo sgil effaith niweidiol."
Ychwanegodd ei fod yn credu fod cynigion y llywodraeth yn "amwys".
"Fe fydden ni wedi disgwyl rhyw fath o ymgynghoriad ar y mater - ond mae angen pwysleisio fod Llywodraeth Cymru'n gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru," meddai.
Roedd ganddo ganmoliaeth tuag at ymgyrch Blwyddyn y Chwedlau Croeso Cymru, ond dywedodd y gallai treth twristiaeth "ddadwneud yr holl waith da yna".
"Bydden ni'n cael llai o ymwelwyr, mae mor syml â hynny, a byddai'n fwy o faich o ran gwaith papur."
'Risg i'r economi'
Yn ôl Twristiaeth Sir Benfro, sydd yn hybu'r diwydiant yn lleol, mae twristiaeth yn dod â £600m y flwyddyn i'r ardal, ac mae pryderon y gallai treth ar ymwelwyr fod yn ergyd i hynny.
"Does dim amheuaeth y bydd e'n stopio rhai pobl rhag dod i Sir Benfro ar wyliau os oes treth yn cael ei chyflwyno," meddai Dennis O'Connor o'r sefydliad.
"Os nad oes treth twristiaeth dros y ffin yn Lloegr, mae'n mynd i fod yn fwy deniadol iddyn nhw heb os.
"Dwi'n methu'n lân a deall i fod yn onest pan fod Cymru'n rhoi ei llaw lan a dweud o bosib eu bod nhw eisiau bod y cyntaf i gyflwyno [treth twristiaeth].
"Mae'n risg i'r economi sydd gennym ni, sydd werth tua £5bn. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn gwneud popeth posib i annog twf, nid ei lesteirio."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y grym i awgrymu trethi newydd yn "bwysig" ac y gallai gael ei ddefnyddio i "wella ein cymunedau".
"Rydyn ni'n awyddus i gael barn gytbwys wrth i ni brofi ein pwerau newydd a dros y misoedd nesaf byddwn yn datblygu a mireinio'n pedwar syniad ymhellach," meddai.
"Byddwn wedyn yn argymell un dreth Gymreig newydd i Lywodraeth y DU yn gynnar yn y flwyddyn newydd ac ymgynghori'n eang wedi i benderfyniad gael ei wneud."
Bydd Sunday Politics Wales i'w gweld ar BBC One Wales am 11:00 ddydd Sul 15 Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd13 Medi 2017
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2017