Gŵr a gwraig y sgrîn fach
- Cyhoeddwyd
Mae'r pâr priod Mali Harries a Matthew Gravelle ymhlith actorion mwyaf adnabyddus Cymru erbyn hyn, ond am y tro cyntaf bydd y ddau yn actio cwpwl priod ar y sgrîn hefyd.
Terry a Bethan Price yw eu cymeriadau yn y gyfres ddrama newydd Un Bore Mercher fydd yn dechrau ar S4C Nos Sul 5 Tachwedd.
Mae'r ddau wedi ymddangos yn rheolaidd mewn nifer o gyfresi cofiadwy dros y blynyddoedd.
Mae Mali yn adnabyddus am ei rhannau yn Caerdydd, The Indian Doctor ac yn fwy diweddar fel yr Arolygydd Mared Lewis yn Y Gwyll tra bod Matthew yn wyneb cyfarwydd mewn cyfresi fel Belonging, Broadchurch a35 Diwrnod.
Yr wythnos hon maen nhw'n dathlu ugain mlynedd ers iddyn nhw gwrdd â'i gilydd. Bellach wedi priodi gyda dau o blant mae'r ddau yn trafod y profiad o actio gŵr a gwraig ar y sgrîn am y tro cyntaf:
Mali: 'Dyn ni wedi actio yn yr un dramâu o'r blaen, ond dim fel pâr priod. Mi oedden ni yn Y Gwyll/Hinterland, Pentalar a Caerdydd gyda'n gilydd, ond dim ond yn Holby City 'da ni wedi actio cwpwl - do'n i ddim yn neis iawn fel cymeriad yn Hoby City - nes i ffeindio allan bod gan gymeriad Math, ganser a nes i ei adael e.
Math: Mae (Terry a Bethan Price) yn wahanol iawn i be' ma'r un ohonon ni wedi'i chwarae o'r blaen, ac maen nhw mor bell o'i gilydd... dy'n nhw ddim mewn perthynas 'iach' iawn ac mor wahanol i'r math o berthynas sydd gan Mali a fi. Mae ganddo ni berthynas ffantastig a 'da ni mewn cariad... mi oedd mynd i'r gwaith a chwarae cwpwl fel 'na yn od...
Mali: Mi oedd yn bleser od mynd i'r gwaith rili, a pheidio dod ymlaen gyda'n gilydd, achos mi oedd o'n gadarnhad bo' fi rili yn caru Math.... ond o'n i yn gwybod hynny cynt wrth gwrs!!!
Math: Plismon hapus yn ei waith sydd ddim yn cwestiynu lot ydy Terry, mae'n sorto pethe mas heb gwyno a does 'na ddim lot yn ormod o drafferth iddo fo.
Mali: Dwi ddim eisiau datgelu gormod, bydd rhaid i chi wylio, ond mae Bethan yn bysgodyn mawr mewn pwll bach, ac os byddwn i yn ei chyfarfod 'go iawn', mi fyddwn i'n argymell iddi edrych ar y tu mewn yn hytrach na'r holl bethau materol sydd ganddi.
Ges i dipyn o makeover ar gyfer cymeriad Bethan. Ar ôl sgwrsio gyda'r cyfarwyddwr Pip Broughton am y cymeriad, mi oedd y ddwy ohonon ni yn awyddus mod i'n edrych yn eitha' gwahanol i fy edrychiad bob dydd, yn enwedig ar ôl Y Gwyll.
Ges i'r hair extensions rili trwm 'ma, oedd angen ei gyrlio a'i drin ac yn lot o ffws… ond mi wnaeth o helpu lot gyda chymeriad Bethan.
Math: Mae stori a chymeriadau Un Bore Mercher yn ffantastig. Mae bron fel whodunnit i drio ffindo mas pwy oedd â llaw yn niflaniad Evan. Mae'r diflaniad fel daeargryn, ac mae'r daeargryn 'na yn gwneud y craciau oedd ym mywydau'r gwahanol gymeriadau yn fwy ac yn exaggeratio popeth ac yn dod â lot o gyfrinachau i'r wyneb.
Mali: Mi oedd Pip y cyfarwyddwr yn ein hannog i feddwl yn y fan a'r lle ac addasu 'chydig ar y sgript er mwyn datblygu'r cymeriadau. Y berthynas agos gyda'r awdur Matthew Hall a Pip oedd yn gwneud hyn yn bosib.
Ro'dd y ffordd roedd Pip yn cyfarwyddo yn fwy rhydd a doedd hi ddim yn cydymffurfio gyda siots a strwythur arferol drama i raddau. Roedd e'n ffordd organic iawn o weithio ac mi oedden ni wir yn teimlo ein bod ni'n rhan o greu a datblygu'r cymeriadau.
Gyda Un Bore Mercher wedi bod yn gyfnod o saith mis o ffilmio, mae Mali a Math yn falch o gael treulio amser gyda'i gilydd fel teulu am gyfnod.
Math: Sai'n credu y bydden ni yn annog y plant i fod yn actorion - dydy bywyd actio ddim yn hawdd. Weithie chi'n gweithio am fisoedd, ac wedyn dim byd - ond 'da ni wedi bod yn gwneud hyn ers ugain mlynedd bellach a dyma ydy'n normalrwydd ni.
Mali: Dyma yw'r bywyd 'da ni di arfer 'da, ond beth sy'n bwysig i ni ydy pan mae 'na gyfnodau tawelach yn dod, treulio amser a gwerthfawrogi'n gilydd a'r teulu sy'n bwysig.
Un Bore Mercher, S4C, 5 Tachwedd, 21:00