Scully-Hicks: 'Adroddiad disglair' i lofrudd
- Cyhoeddwyd
Mae wedi dod i'r amlwg fod tad a lofruddiodd ei ferch fach fabwysiedig wedi derbyn "adroddiad disglair" am ei addasrwydd i'w mabwysiadu.
Fe gafodd Matthew Scully-Hicks a'i ŵr Craig fabwysiadu Elsie Scully-Hicks yn ffurfiol bythefnos yn unig cyn i'r ferch 18 mis oed gael ei lladd.
Mae barnwr mewn llys teulu wedi cyhoeddi adroddiad i'r prosesau gofal cyn yr achos llys sy'n dweud bod Matthew Scully-Hicks yn ymddangos fel person "hynod addas i fabwysiadu".
Dywedodd Mr Ustus Moor bod y llys a ganiataodd y gorchymyn mabwysiadu yn sicr o farnu o'i blaid o ystyried y wybodaeth a ddaeth atyn nhw.
Cafodd Matthew Scully-Hicks, 31 oed o Delabole yng Nghernyw, ei garcharu am oes gydag o leia' 18 mlynedd dan glo wedi i lys ei gael yn euog o lofruddio Elsie yn eu cartref yn ardal Llandaf, Caerdydd.
Fe gafodd adroddiad y barnwr ei baratoi yn dilyn ei marwolaeth ym mis Mai 2016 ond cyn yr achos llofruddiaeth. Ynddo mae'r barnwr yn dweud fod hwn yn achos "gyda'r mwyaf difrifol i mi ddelio ag ef".
'Ymddangos yn addas'
Fe wnaeth Mr Ustus Moor bwysleisio nad oedd y ffaith mai cwpl hoyw oedd yn mabwysiadu ddim i wneud â'r achos, gan ychwanegu: "Rwy'n hollol fodlon nad oedd gan rywioldeb unrhyw rôl o gwbl wrth benderfynu sut y mae lleiafrif bach iawn yn ymddwyn mewn modd sy'n achosi niwed difrifol iawn neu farwolaeth i blentyn.
"Rwy'n derbyn hefyd bod y modd yr oedd Matthew Scully-Hicks yn ymddangos i'r byd yn ei wneud yn berson addas i fabwysiadu.
"Fe gafodd adroddiad disglair ei baratoi i'r llys [teulu] ac rwyf o'r farn bod y llys yn sicr o ganiatáu'r gorchymyn mabwysiadu ar 12 Mai 2016 o weld y wybodaeth oedd o'i flaen."
Bu'n rhaid mynd ag Elsie oddi wrth ei mam geni, oedd yn gaeth i gyffuriau, gan ei bod yn "diodde' niwed sylweddol", ond 13 diwrnod wedi'r gorchymyn ffurfiol bu farw wrth law Matthew Scully-Hicks.
Clywodd y llys fod Elsie wedi diodde' nifer o anafiadau yn y misoedd cyn iddi farw, ac roedd y barnwr wedi'i synnu nad oedd tri gweithiwr cymdeithasol o Fro Morgannwg wedi gwneud sylw ar glais sylweddol a gafodd ar 16 Rhagfyr yn eu nodiadau.
Ychwanegodd Mr Ustus Moor bod Craig Scully-Hicks yn derbyn mai ei ŵr Matthew oedd wedi lladd Elsie.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017