Carcharu tad am oes am ladd ei fabi mabwysiedig
- Cyhoeddwyd
Mae tad o Gaerdydd, wnaeth lofruddio'i ferch 18 mis oed, bythefnos ar ôl ei mabwysiadu'n ffurfiol wedi ei garcharu am oes.
Dywedodd barnwr yn Llys y Goron Caerdydd y bydd yn rhaid i Matthew Scully-Hicks, 31 oed, dreulio o leiaf 18 mlynedd dan glo.
Roedd Scully-Hicks wedi gwadu llofruddiaeth, ond fe'i cafwyd yn euog yn unfrydol gan y rheithgor ddydd Llun.
Fe wnaeth Matthew Scully-Hicks achosi cyfres o anafiadau i Elsie Scully-Hicks yn ei gartref yng Nghaerdydd yn yr wyth mis y bu dan ei ofal.
Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Davies ei bod o'r farn fod Scully-Hicks wedi anafu'r babi ar fwy nag un achlysur.
"Roedd ganddo chi dueddiad tuag at anafu eich baban mabwysiedig, ac roeddech yn ymwybodol o hynny.
"Fe wnaethoch fethu a chymryd unrhyw gamau i rwystro'r hyn oedd wedi digwydd yn flaenorol ac wedi achosi anaf i Elsie.
"Rwy'n derbyn fod gweithredu mewn tymer yn golygu fod yna ddiffyg cynllunio bwriadol.
"Ond mae'n rhaid i mi hefyd ystyried nad oedd hwn yn ddigwyddiad ynysig ac eich bod yn gwybod fod eich tymer yn gallu arwain at anafu bwriadol."
Ychwanegodd nad oedd wedi dangos unrhyw edifeirwch.
Bu farw Elsie yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar 29 Mai wedi i feddygon ddweud nad oedd modd ei hachub.
Clywodd y llys ei bod wedi dioddef anafiadau "catastroffig" gan gynnwys torri ei phenglog, torri ei choes a chleisiau difrifol.
Roedd ganddi waedu ar ei hymennydd ac o fewn ei llygaid hefyd.
Roedd Scully-Hicks wedi honni nad oedd erioed wedi brifo Elsie.
Ond fe ddywedodd patholegydd bod ei hanafiadau yn "nodweddiadol iawn" o fabi oedd wedi cael ei hysgwyd.
Bwriadu achosi niwed
Gan siarad ar ôl yr achos dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Stuart Wale o Heddlu De Cymru fod marwolaeth Elsie wedi cael "effaith andwyol yn gyntaf oll ac yn bennaf ar ei theulu."
Fe ddisgrifiodd Lisa McCarthy, o Wasanaeth Erlyn y Goron Cymru yr achos fel un oedd yn "drasig."
"Roedd y dystiolaeth gafodd ei gyflwyno gan y CPS yn profi bod Matthew Scully-Hicks nid yn unig yn gyfrifol am yr anafiadau ond ei fod wedi bwriadu achosi niwed difrifol iddi," meddai.
Mae disgwyl i adolygiad o ymarfer plant gael ei gynnal er mwyn ymchwilio i rôl yr asiantaethau yn yr achos, ac ystyried a oes gwersi i'w dysgu er mwyn atal trasiedi fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017