Llofruddiaeth Elsie Scully-Hicks: Cefndir
- Cyhoeddwyd
Ar ôl i reithgor gael Matthew Scully-Hicks yn euog o lofruddiaeth ei ferch fabwysiedig, Elsie, fe fydd asiantaethau yn wynebu cwestiynau am y lefel o oruchwylio yn yr achos.
Fe fydd cwestiynau o'r fath yn cael eu trafod gan banel arolygu o'r gwahanol asiantaethau oedd ynghlwm â'r achos.
Byddant yn clywed fod Scully-Hicks, cyn hyfforddwr ffitrwydd, wedi bod trwy'r broses fanwl o fabwysiadu plentyn, a hynny ddwywaith.
Wrth roi tystiolaeth i'r llys dywedodd gŵr Matthew Scully-Hicks, Craig, ei fod yn credu ar y pryd fod y teulu yn un delfrydol.
"Gadewch i mi fod yn glir. Roedd fy nhŷ yn un oedd yn llawn cariad a hapusrwydd drwy'r amser," meddai.
"Pe bawn i wedi amau unrhyw beth ni fyddwn wedi goddef hynny."
Matthew Scully-Hicks oedd yn aros gartref i warchod, tra bod Craig yn parhau yn ei swydd fel cyfarwyddwr cwmni, ac yn aml yn gweithio i ffwrdd o'i gartref.
Roedd y cwpl eisoes wedi mabwysiadu un plentyn cyn mabwysiadu Elsie, ar ôl proses wnaeth gymryd tua blwyddyn.
Roedd Elsie yn 10 mis oed pan symudodd i fyw gyda'r cwpl yn eu cartref yng Nghaerdydd yn 2015.
Bu gweithwyr cymdeithasol yn ymweld â'r teulu bob pythefnos wrth i'r babi ddechrau setlo yn ei chartref newydd.
Fe wnaeth yr Ymwelydd Iechyd Jodie Golten weld Elsie ar dri achlysur gan ddweud ei bod yn "blentyn hapus, yn hoff o fywyd, yn wen i gyd..." wrth roi tystiolaeth.
Pan gafodd ei holi a oedd ganddi unrhyw bryderon dywedodd: "Dim o gwbl."
Negeseuon testun
Ond fe wnaeth negeseuon testun gan Scully-Hicks i'w ŵr ddatgelu nad oedd popeth yn berffaith.
Dywedodd ei fod yn ei chael yn anodd ymdopi, a dywedodd cymdogion ei fod yn swnio dan bwysau, ac yn codi ei lais.
Yn yr wythnosau wedyn fe ddechreuodd Elsie gael anafiadau.
Fis ar ôl symud i'w chartref newydd cafodd anaf i'w choes. Dwedodd Scully-Hicks iddi syrthio yn y gegin.
Daeth meddyg o hyd i asgwrn oedd wedi torri ond fe fethodd a sylwi ar ail un.
Clywodd y llys pe bai'r ail doriad wedi ei ddarganfod fe fyddai wedi codi pryder ynglŷn â diogelwch y plentyn.
Deufis yn ddiweddarach fe gafodd Elsie glais ar ei thalcen. Dywedodd Scully-Hicks fod hyn ar ôl iddi daro ei phen yn erbyn drws oedd yn rhan o degan cegin plentyn.
Fe welodd Ms Golten y clais ar 22 Rhagfyr, a dywedodd bod y rheswm gafodd ei roi "yn un oedd yn gredadwy ar gyfer plentyn o'r oed dan sylw".
Ar 10 Mawrth 2016, wythnosau cyn ei marwolaeth, dywedodd Scully-Hicks bod Elsie wedi cwympo i lawr grisiau.
Dywedodd Scully-Hicks iddo fethu a chau giât yn iawn, a bod y ferch wedi ei agor.
Galwodd 999, ac fe gafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty a'i rhyddhau yn ddiweddarach.
Fe wnaeth Ms Golten ffonio Scully-Hicks ar 5 Mai 2016, ac ar ôl y sgwrs ysgrifennodd nodyn yn dweud: "Y tad wedi cymryd camau priodol."
'Diymadferth'
Ar 25 Mai, cafodd y gwasanaethau brys eu galw unwaith eto.
Dywedodd Scully-Hicks iddo ddarganfod Elsie yn ddiymadferth ar y llawr a hynny funudau'n unig ar ôl newid ei chlwt.
Ond yn yr ysbyty fe ddechreuodd rhai amau stori Scully-Hicks.
Dywedodd y pediatrydd Dr David Tuthill fod ymddygiad y tad yn hynod anarferol.
Fe wnaeth pediatrydd arall, Dr Nia John gael ei galw o'i chartref er mwyn gweld y cwpl i drafod canlyniadau sgan CT.
Roedd y sgan yn dangos gwaedu ar yr ymennydd, rhywbeth oedd yn cyd-fynd ag anaf o ganlyniad i ysgwyd.
Bu farw Elsie ar 29 Mai ar ôl i feddygon benderfynu diffodd peiriant cynnal bywyd.
Fe wnaeth profion meddygol yn dilyn ei marwolaeth awgrymu nad oedd ei hanafiadau yn rhai damweiniol.
Dangosodd archwiliad post mortem fod ei hasennau, ei choes a'i phenglog wedi eu torri.
Dywedodd Dr Sarah Harrison, wnaeth archwilio Elsie ar ôl ei marwolaeth wrth y llys: "Rwyf wedi gweld anafiadau o'r fath mewn oedolion ar ôl trawma mawr fel damwain car neu syrthio o uchder, ond doeddwn heb weld hynny mewn plentyn o'r oedran yma."
Dywedodd y patholegydd Dr Stephen Leadbetter wrth y llys ei fod ef o'r farn fod anafiadau Elsie yn cyd-fynd ag anafiadau drwy ysgwyd.
Wrth grynhoi achos yr erlyniad dywedodd Paul Lewis QC: "Roedd ymddygiad [Scully-Hicks] yn hwyr p'nawn 25 Mai yn benllanw ei ymddygiad treisgar tuag at blentyn diniwed - plentyn ddylai fod yn cael ei charu a'i hamddiffyn, ond yn hytrach a ddioddefodd ymosodiad, cael ei cham-drin a'i llofruddio."
Roedd Scully-Hicks yn dweud nad oedd e'n gwybod sut i Elsie ddioddef ei hanafiadau.
Fe fydd arolwg o'r achos yn ymchwilio i rôl y gwahanol asiantaethau statudol, i weld a oes gwersi i'w dysgu er mwyn atal achosion o'r fath yn y dyfodol.
Dywedodd Ray Jones, Athro Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Kingston, fod y broses yn un trwyadl.
"Rydym yn edrych yn ôl yn drwyadl mewn modd fforensig bron, i weld beth yn union wnaeth pawb oedd ynghlwm â'r achos.
"Yn anfoddus dyw pobl ar y rheng flaen sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd ddim hefo'r gallu i roi gymaint o sylw i un achos unigol."
Dywedodd Vivian Laing, pennaeth polisi NSPCC Cymru: "Pan mae gan rywun berthynas gyda rhieni, a phan mae eglurhad credadwy yn cael ei roi, weithiau mae'n hawdd i rywun gamgymryd neu fethu.
"Felly mae'n hollbwysig i rywun gymryd cam yn ôl, a gwau'r holl adroddiadau a'r holl ddigwyddiadau at ei gilydd, a dyna beth fydd pwrpas arolwg o'r fath."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017