Matthew Scully-Hicks yn euog o lofruddiaeth ei ferch, Elsie
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor wedi cael dyn yn euog o lofruddio ei ferch fabwysiedig yng Nghaerdydd.
Roedd Matthew Scully-Hicks, 31, wedi gwadu cam-drin Elsie Scully-Hicks, 18 mis oed, dros gyfnod o fisoedd ac achosi anafiadau "catastroffig" iddi.
Dywedodd ei fod wedi darganfod y ferch fach yn anymwybodol ar y llawr yn ei gartref. Bu hi farw yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Roedd y rheithgor yn unfrydol yn eu penderfyniad, ac mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu ddydd Mawrth.
Wedi'r dyfarniad, dywedodd y barnwr bod Elsie yn enwedig o fregus oherwydd ei hoed, a bod ei thad wedi methu yn ei rôl fel rhywun y dylid gallu ymddiried ynddo.
'Trawma sylweddol'
Cafodd Elsie ei mabwysiadu gan Mr Scully-Hicks, sy'n wreiddiol o Gernyw, a'i ŵr Craig, wyth mis cyn ei marwolaeth ym mis Mai 2016.
Roedd Mr Scully-Hicks wedi dweud iddo ddarganfod Elsie yn anymwybodol ar lawr yr ystafell fyw ar 25 Mai.
Dywedodd iddo alw 999 a cheisio ei hadfywio tan i barafeddygon gyrraedd ac fe gafodd Elsie ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ond bu farw'n ddiweddarach.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod ei hanafiadau yn "nodweddiadol" o fabanod neu blant sydd wedi cael eu hysgwyd.
Dywedodd arbenigwr bod Elsie wedi dioddef gwaedu ar y ddwy ochr o'i hymennydd, ac ar gefn ei hymennydd.
Clywodd y llys hefyd bod gwaedu ar ei llygaid, ond bod y rhain wedi digwydd hyd at chwe wythnos yn gynt.
Dywedodd niwroradiolegydd ei fod yn sicr bod yr anafiadau ar ei hymennydd yn rhai diweddar, a bod modd eu hesbonio drwy "ddigwyddiad o drawma i'w phen allai gynnwys ysgwyd".
Rhegi a gweiddi
Clywodd yr achos bod Mr Scully-Hicks wedi mynd ag Elsie i'r ysbyty ddeufis cyn ei marwolaeth, gan ddweud ei bod wedi ei hanafu ar ôl syrthio i lawr grisiau.
Ond dywedodd radiolegydd pediatrig bod yr anafiadau yn rhai y byddai'n disgwyl mewn person oedd wedi dioddef "trawma sylweddol".
Yn ogystal â'r gwaedu ar ei hymennydd, daeth archwiliad post mortem i'r canlyniad iddi dorri ei hasennau, ei choes a'i phenglog.
Dywedodd Robert O'Sullivan ar ran yr amddiffyniad nad oedd y diffyg eglurhad am anafiadau difrifol "yn golygu fod yr erlyniad wedi llwyddo i brofi eu hachos".
Clywodd y rheithgor hefyd bod Mr Scully-Hicks wedi anfon negeseuon at ei ŵr yn dweud nad oedd yn gallu ymdopi gyda gofalu am blentyn ifanc.
Roedd cymdogion wedi dweud iddyn nhw glywed Mr Scully-Hicks yn gweiddi a rhegi ar y babi.
Fe wnaeth Mr Scully-Hicks wadu defnyddio iaith anweddus wrth siarad â'i ferch, gan ddweud: "Fyddwn i byth yn gwneud hynny."
Dywedodd y barnwr bod Elsie yn enwedig o fregus oherwydd ei hoed, a bod ei thad wedi methu yn ei rôl fel rhywun y dylid gallu ymddiried ynddo.
Ychwanegodd bod "tystiolaeth gref" bod Scully-Hicks wedi achosi'r anafiadau i goesau'r ferch yn y gorffennol.
'Effaith andwyol'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Stuart Wales o Heddlu De Cymru bod marwolaeth Elsie wedi cael "effaith andwyol" ar ei theulu, ac ar y "gymuned ehangach, gan gynnwys y gweithwyr proffesiynol niferus a fu'n rhan o'i gofal a'r ymchwiliad dilynol".
"Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt, gan gynnwys y llu o dystion a wnaeth helpu'r erlyniad."
Ychwanegodd: "Mae'r achos hwn yn ymwneud â chyfres o amgylchiadau hynod brin a gofidus.
"Yma yn Heddlu De Cymru rydym yn parhau i barchu a gwerthfawrogi'r rôl y mae mabwysiadu, a'r rheini sy'n rhan ohono, yn chwarae yn ein cymdeithas."
'Neb yn ennill'
Yn ymateb i benderfyniad y rheithgor, dywedodd Iwan Jenkins o Wasanaeth Erlyn y Goron fod "neb yn ennill mewn achosion llofruddiaeth".
"Roedd ffactorau cymhleth, fel mai'r unig ddau berson oedd yn gwybod beth ddigwyddodd yn y misoedd cyn ei marwolaeth oedd y diffynnydd a'r ferch ei hun," meddai.
Dywedodd bod tystiolaeth arbenigwyr meddygol wedi bod yn "hanfodol" i'r achos, a'u bod wedi "dangos bod eglurhad y diffynnydd yn anghywir ac anghyson".
Mae disgwyl i Adolygiad Ymarfer Plant gael ei gynnal, fydd yn ymchwilio i rôl asiantaethau yn yr achos ac asesu pa wersi all gael eu dysgu i osgoi digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2017