Trosglwyddo Canolfan Hamdden Llandysul i'r gymuned leol

  • Cyhoeddwyd
canolfan hamdden llandysul

Mae Cyngor Ceredigion wedi trosglwyddo gofal Canolfan Hamdden Llandysul i fwrdd ymddiriedolwyr pwll nofio'r dref.

Daw'r cyhoeddiad yn dilyn pryderon am ddyfodol y ganolfan yn sgil toriadau i gyllidebau hamdden y sir.

Mae'r ganolfan hamdden ac adeilad y pwll ar yr un safle, ond wedi bod yn cael eu rhedeg gan reolwyr gwahanol.

Nawr, fe fydd y ganolfan hamdden yn perthyn i'r un sefydliad, ac yn cael ei rhedeg ochr yn ochr â'r pwll o dan yr enw Calon Tysul.

Swyddi newydd

Dywedodd cadeirydd yr ymddiriedolwyr, Gareth Bryant: "Rydym yn falch iawn bod Cyngor Ceredigion wedi cytuno i drosglwyddo'r ganolfan hamdden i'r pwll nofio a'n helpu ni i ddiogelu'r safle.

"Rydym wedi recriwtio rheolwr i weithio ochr yn ochr â'r gymuned i yrru'r prosiect ymlaen er mwyn gwireddu potensial Calon Tysul sydd â'r weledigaeth i wneud bywyd yn well i'n cymuned leol."

Dywedodd rheolwr newydd Calon Tysul, Matt Adams: "Rydym yn gyffrous iawn i fynd ati i redeg y cyfleusterau. Mae'r adeilad mewn cyflwr da ac mae wedi'i leoli yng nghanol y pentref ac yn hygyrch i holl drigolion Llandysul.

"Ein gweledigaeth ar gyfer Calon Tysul yw darparu ystod eang o weithgareddau corfforol a chymdeithasol i bobl o bob oed a gallu.Trosglwyddo canolfan hamdden i gymuned

"Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw chwaraeon ac ymarfer corff er mwyn ein cadw'n heini, yn iach a hapus a bydd Calon Tysul yn ymdrechu i ddarparu llawer o gyfleoedd i gymuned Llandysul am bris fforddiadwy."

Cafodd Pwll Nofio Llandysul ei sefydlu yn dilyn ymdrechion gan bobl leol i godi arian ar gyfer yr adeilad yn ôl yn y 1970au, ond roedd dyfodol y pwll yn y fantol yn dilyn y cyhoeddiad yn 2013 fod Cyngor Ceredigion yn tynnu ei grant blynyddol.

Yn sgil y cyhoeddiad, fe aeth pobl leol ati i gefnogi trwy dalu swm misol i gadw'r pwll ar agor.

Ers hynny mae'r pwll wedi gweld twf ac mae bellach yn cyflogi 17 achubwr-bywyd ac athro nofio rhan-amser, gyda dros 180 o blant yn derbyn gwersi nofio.

I ddathlu lansio Calon Tysul, ac i annog mwy o gyfranogiad mewn gweithgareddau chwaraeon, bydd y ganolfan yn cynnal diwrnod o weithgareddau am ddim ddydd Sul 3 Rhagfyr.