Bron 4,000 landlord heb gofrestru i gynllun Rhentu Doeth
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 4,000 o landlordiaid yn dal i osod adeiladau yn anghyfreithlon ar ôl methu ag ymuno â chofrestr sy'n anelu at godi safonau yn y sector rhentu preifat.
Mae disgwyl i bob landlord yng Nghymru gofrestru gyda chynllun Rhentu Doeth Cymru, gafodd ei ddechrau gan Lywodraeth Cymru ddwy flynedd yn ôl.
Er bod y mwyafrif yn "cydymffurfio'n llawn gyda'r ddeddfwriaeth", mae Rhentu Doeth Cymru'n dweud eu bod yn mynd i'r afael â'r rhai sy'n anwybyddu'r gyfraith.
Cafodd y cwmni gosod tai cyntaf yng Nghymru ei erlyn yr wythnos ddiwethaf.
Doedd Yvette Phillips, o gwmni R Miles Scurlock yn Aberdaugleddau, Sir Benfro, heb geisio am drwydded na chofrestru adeiladau oedd ar osod, ac fe gafodd ddirwy o £4,600.
3,762 yn anghyfreithlon
Cychwynnodd y cynllun yn Nhachwedd 2015 gan roi 12 mis i landlordiaid gofrestru.
Pan ddaeth i rym yn 2016, roedd pryder bod tua 13,000 o landlordiaid yn rhentu'n anghyfreithlon.
Yn ôl Cyngor Caerdydd, sy'n gweithredu'r cynllun ar ran Cymru gyfan, mae tua 90,000 o landlordiaid preifat - 40,000 yn llai na'r amcangyfrif gwreiddiol.
Hyd at ddydd Iau, roedd 86,238 wedi cofrestru - sy'n golygu bod tua 3,762 yn gosod adeiladau yn anghyfreithlon.
Dywed Rhentu Doeth Cymru bod wyth o landlordiaid wedi cael eu herlyn hyd yma, a bod 162 o rybuddion cosb benodol hyd at £250 wedi eu cyflwyno.
Dywedodd Lance Robertson o'r arwerthwyr tai Hern and Crabtree yng Nghaerdydd eu bod wedi croesawu'r cynllun o'r cychwyn, a bod landlordiaid yn deall yn well beth yw eu cyfrifoldebau cyfreithiol i denantiaid.
Mae'r cwmni'n gyfrifol am tua 70% o'r eiddo sydd ar gynnig trwy eu gwasanaeth rhentu, ac yn hysbysebu'r gweddill ar ran landlordiaid sy'n rheoli eu tenantiaethau eu hunain.
Dywedodd Mr Robertson: "Fel gweithwyr proffesiynol, ry'n ni'n ymwybodol o'r gyfraith.
"Mae'r [cynllun] wedi codi ymwybyddiaeth pobl i'r hyn mae'n rhaid ei wneud a sut ddylai landlord ymddwyn."
'Cosbi oherwydd dryswch'
Ond mae corff sy'n cynrychioli landlordiaid yng Nghymru yn cwestiynnu pa mor effeithiol ydy'r cynllun, er eu bod yn cytuno â'r egwyddor.
Dywedodd Douglas Haig, is-gadeirydd RLA Cymru: "Mae adnoddau prin yn cael eu defnyddio ar gyfer cynllun biwrocratig arall sy'n gwneud 'chydig i wella safonau tai yng Nghymru."
Ychwanegodd bod landlordiaid yn "cael eu cosbi oherwydd dryswch" ynghylch y drefn gofrestru.
Dywedodd llefarydd Rhentu Doeth Cymru bod 85% o landlordiaid bellach yn cydymffurfio'n llawn â'r rheolau, ond bod awdurdodau lleol yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r rhai sydd heb wneud hynny.
£33.50 yw cost cofrestru fel landlord arlein ac £80.50 ar bapur. Does dim gwahaniaeth sawl eiddo sydd gan y landlord.
Mae'r trwyddedau'n ddilys am bum mlynedd, ac mae'r arian yn mynd at gostau cynnal yn cynllun.
Mae'n bosib archwilio os ydy tŷ neu fflat ar y gofrestr arlein a chadarnhau pwy sy'n ei rentu.
Ddechrau'r flwyddyn bu'n rhaid i Gyngor Caerdydd gynnal ymchwiliad ar ôl gyrru neges ynglŷn â'r broses gofrestru oedd yn dangos cannoedd o gyfeiriadau e-bost.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2016