Dal i gyfri'r gost wedi tirlithriad Ystalyfera
- Cyhoeddwyd
Dywed cyngor Castell-nedd Port Talbot y bydd y gost o ganlyniad i dirlithriadau eleni yn ardal Ystalyfera wedi codi i fwy na £500,0000 erbyn mis Mawrth nesa.
Ond mae rhai trigolion lleol hefyd yn cyfri'r gost.
Mae Richard Morrison yn amcangyfrif iddo wario hyd at £20,000 ar arolwg peirianyddol a chostau cyfreithwyr ar ôl i'w dŷ gael ei effeithio gan dirlithriad naw mis yn ôl.
Dywedodd wrth raglen Eye On Wales BBC Radio Wales iddo ddeffro yn y bore i weld fod y rhan fwyaf o'i ardd gefn wedi llithro 100 troedfedd lawr y mynydd.
Ar ôl rhagor o dirlithriadau fe gafodd Mr Morrison a'i bartner Jackie Kendall, ynghyd â naw o gartrefi eraill ar Heol Cyfyng rybudd y dylid symud
Dywed Cyngor Castell-nedd Port Talbot i Orchymyn Gwahardd Brys gael ei osod oherwydd eu bod yn poeni fod risg bod niwed ar fin digwydd.
Mae Mr Morrison yn anghytuno gyda'r asesiad, ac er i'r rhan fwyaf o gymdogion adael mae o a'i bartner wedi penderfynu aros.
Maen nhw nawr yn apelio yn erbyn y Gorchymyn a bydd yna wrandawiad ymhen tair wythnos.
Dadl Mr Morrison yw bod tystiolaeth arbenigol yn dangos fod y tirlithriad gwreiddiol wedi ei achosi gan ddŵr yn llifo o gylfat oedd wedi torri.
Roedd hyn yn ei dro, meddai, wedi golchi rhan o'r tir ymaith, ond nid oedd y digwyddiad yn rhan o batrwm o dirlithriadau hanesyddol.
"Mae wedi costio ceiniog neu ddwy, rhwng £10,000 a £20,000, " meddai wrth son am ei frwydr i barhau yn y tŷ.
"Fe wnes i roi'r gorau i gyfrif y gost oherwydd 'o ni am ei wneud e ta beth - a does dim troi yn ôl.
"Rwy wedi colli 'chydig o ffydd yn y tŷ oherwydd fe allai fod wedi mynd erbyn fory pe bai'r cyngor yn cael eu ffordd. Ond mae'r tŷ ynddo'i hyn yn gwbl iawn."
Mae yna hanes o dirlithriadau yn Ystalyfera yng Nghwm Tawe.
Bu o leiaf 45 ers y 1890au ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n rhaid dymchwel nifer o dai yn ardaloedd Godre'r Garaid a Pan-teg.
Ar ôl tirlithriad yn 2012 fe wnaeth ymgynghorwyr gyhoeddi map oedd yn rhoi cartref Mr Morrison yn y categori risg leiaf.
Yn dilyn tirlithriad eleni fe wnaeth y cyngor sir anfon eu harbenigwyr i Heol Cyfyng.
Dydy nhw heb gyhoeddi eu casgliadau terfynol eto.
Ond beth bynnag mae'r tribiwnlys apêl yn penderfynu dywed Rob Jones, arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, ei fod cytuno a'r camau sydd wedi eu cymryd.
"Roedd y wybodaeth a ddaeth i'm llaw yn dweud fod y deg eiddo mewn perygl oherwydd bod yna risg y gallai'r tai, fel digwyddodd i'r ardd gefn, syrthio lawr y mynydd
"Roedd yn rhaid i mi wneud penderfyniad i ddiogelu bywydau - roedd yn rhaid gweithredu.
"Nid bai'r cyngor ydi hyn. Mae'r cyngor wedi ymateb i argyfwng naturiol.
"Yr oll mae'r cyngor yn ei wneud yw sicrhau fod trigolion yn ddiogel."
Pe bai'r tribiwnlys yn cytuno â'r Gorchymyn Gwahardd Brys ar 18 Rhagfyr a'i bod hi yn rhy ddrud neu yn amhosib i ddiogelu'r tai, yna mae'n bosib y bydd y cyngor yn cyhoeddi gorchymyn i ddymchwel yr adeiladau.
Bydd rhaglen Eye on Wales i'w chlywed ar BBC Radio Wales am 18.30 dydd Sul, 26 Tachwedd.