Arolwg cynharach o wasanaethau gofal oedolion Powys
- Cyhoeddwyd
Fe fydd arolwg o wasanaethau gofal oedolion Powys yn cael ei gynnal yn gynharach na'r disgwyl.
Daw wedi i'r sir gael ei beirniadu'n hallt am fethiannau yn eu gwasanaethau gofal ar gyfer plant.
Bydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn bwrw golwg ar y sir ym mis Ionawr 2018, er mai yn yr haf oedd disgwyl iddyn nhw gynnal eu harolygiad nesaf.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Rosemarie Harris, eu bod wedi rhagweld newid i'r amserlen "yn dilyn y sylwadau a gafwyd yn sgil argymhellion yr arolwg o'r gwasanaethau plant".
Mae gwasanaethau gofal y sir wedi bod dan y chwyddwydr ers yr adroddiad, a nododd bod "pryderon difrifol" am wasanaethau cymdeithasol i blant. Roedd "cyfleoedd coll i ddiogelu plant" yn y sir, er gwaethaf "ceisiadau am gymorth", yn ôl AGGCC.
Yn dilyn yr adroddiad, gofynnodd Cyngor Powys am help Llywodraeth Cymru i adfer y gwasanaethau hynny.
Cafodd BBC Cymru wybod hefyd bod pennaeth gwasanaethau oedolion Powys, Louise Barry, wedi "mynegi ei bwriad" i adael ei swydd.
Dywedodd y cyngor y bu gwelliannau yn eu gwasanaethau i oedolion ers arolwg diwethaf AGGCC yn 2015. Mae disgwyl cyhoeddi canfyddiadau'r arolwg fydd yn cael ei gynnal ym mis Ionawr yn ddiweddarach yn 2018.