Diolch Chris!

  • Cyhoeddwyd
xx

Mae hi'n ddiwedd pennod ddisglair yn hanes tîm pêl-droed Cymru.

Ar ôl arwain Cymru i Euro 2016 mae Chris Coleman wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w swydd fel rheolwr y tîm cenedlaethol i fynd i reoli Sunderland yn y Bencampwriaeth.

Diolch i ddatblygiad chwaraewyr ifanc fel Tom Lawrence, Ethan Ampadu, David Brooks a Ben Woodburn mae o wedi gadael sylfaen gref ar gyfer y dyfodol. Ac mi fyddwn ni'n cofio'r haf bythgofiadwy hwnnw yn Ffrainc gyda balchder am genedlaethau...

Diolch Chris a phob lwc!

'Ar haf hwn yw Cymru fydd'

O'r diwedd, ar ôl 58 mlynedd o loes calon, roedd Cymru wedi cyrraedd un o bencampwriaethau mawr y byd unwaith eto.

Pwy well, felly, i adrodd geiriau hynod y prifardd Llion Jones na'r actor Rhys Ifans...

Disgrifiad,

Rhys Ifans yn darllen cerdd iasol am drasiedi, gobeithion a llawenydd y daith fu mor hir

Hwyl am y tro

Bu Cymru Fyw yn casglu lluniau o'r cefnogwyr oedd ar fin gadael Cymru am Ffrainc.

Disgrifiad o’r llun,

Golygfa gyfarwydd iawn i'r rhan fwyaf o gefnogwyr aeth allan i Ffrainc

Disgrifiad o’r llun,

Criw mawr o glwb Llanberis yn barod am daith eu bywydau

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Cymry uno ar gyfer y daith

Ond doedd y ffordd yno ddim yn fêl i gyd i bawb - gan gynnwys y criw yma o Flaenau Ffestiniog.

Roedd Michael Pugh, ymladdwr tân 25 oed, yn gyrru drwy ddinas Rouen pan fachodd to'r fan mewn pont isel oedd yn croesi'r ffordd.

Roedd gan Mr Pugh a'i ffrindiau docynnau i ddilyn Cymru i'r ffeinal. "Rŵan sganddon ni nunlla i aros na ffordd i deithio, 'da ni am barhau â'r daith i Bordeaux, ond wedi hynny, 'dwi ddim yn gwybod be' wnawn ni," meddai ar y pryd.

Ond er gwaethaf trafferthion rhai teithwyr, fe lwyddodd miloedd o Gymry i gyrraedd Bordeaux. Ac mae'r gweddill, fel mae'r dywediad yn mynd, yn hanes...

Disgrifiad o’r llun,

Cefnogwyr yn Bordeaux

Ein arbenigwr gwadd

Lledodd newyddion arbennig iawn ar hyd a lled Cymru fis Mehefin diwethaf wrth i Cymru Fyw gyhoeddi bod un o wynebau cyfarwydd pêl-droed Cymru yn ymuno â'r tîm fel "arbenigwr" - yr anfarwol Wali Tomos.

Disgrifiad,

Beth ydy tic-tacs Wali ar gyfer gêm Slofacia yn Bordeaux?

Yn ogystal â'i araith enwog i'r dynion ar y lein ddillad (uchod), bu Wali a gweddill criw Bryncoch yn cyfrannu i'r llif byw arbennig ar gyfer y gêm agoriadol hefyd.

"Oes fhywun isio'n llongyfvach i, achos dwi'n cal cathod bach yn fama!!!!"

Beth bynnag wneith ddigwydd, wedi campau Cymru yn Ffrainc yn 2016, bydd gan y cefnogwyr atgofion i'w trysori am amser hir iawn eto.