Pobl Ystalyfera yn apelio gorchymyn wedi tirlithriad
- Cyhoeddwyd
Mae preswylwyr tri thŷ a gafodd orchymyn i adael eu cartrefi yng Nghwm Tawe wedi tirlithriadau wedi apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor.
Bu'n rhaid i 20 o bobl symud o 10 o dai yn Heol Cyfyng yn Ystalyfera ym mis Awst oherwydd pryderon Cyngor Castell-nedd Port Talbot bod niwed mawr ar fin digwydd.
Clywodd tribiwnlys yng Nghaerdydd ddydd Llun bod rhaid cymryd bod y tir yn "ansefydlog" oni bai bod tystiolaeth i'r gwrthwyneb.
Fe ddigwyddodd y tirlithriad cyntaf yn 2012 pan syrthiodd miloedd o dunelli o gerrig, pridd a choed i lawr llethr y tu ôl i Heol Cyfyng.
Roedd 'na dirlithriadau pellach eleni ac o ganlyniad i'r un diwethaf ym mis Awst fe lithrodd rhannau o erddi cefn rhai o'r cartrefi 100 troedfedd lawr y llethr.
Yn ôl cadeirydd y tribiwnlys, Chris McNall mai'r prif fater i'r gwrandawiad ei ystyried a yw'r perygl o niwed i'r tai yn un "categori 1".
Dywedodd y cyfreithiwr sy'n cynrychioli'r cyngor bod risg o niwed difrifol ar fin digwydd, bod rhagor o dirlithriadau yn fwy tebygol na pheidio, a bod angen sefydlogi'r llethr.
Awgrymodd Stephen Cottle wrth y tribiwnlys bod "gwneud dim ddim yn opsiwn".
Mae'r cyngor yn dadlau na ddylai unrhyw un fyw yn y tai nes bod peiriannydd adeiladu wedi cynnal asesiad llawn a bod yr holl waith adfer sy'n cael ei argymell wedi ei gwblhau.
Clywodd y gwrandawiad bod y tirlithriad wedi torri'r geuffos sydd wedi'i chysylltu â'r tai a bod cynnwys y draeniau'n llifo i lawr y llethr.
Hefyd fe glywodd y panel bod preswylwyr un o'r tai yn credu bod yr eiddo wedi ei adeiladu ar garreg, ond mae'r cyngor yn dweud nad ydyn nhw wedi gweld tystiolaeth o hynny.
Mae'r cyngor yn dweud y gallai tirlithriad arall effeithio ar sylfeini'r tai a bod 'na wendid am fod y pridd oddi tanyn nhw yn wlyb iawn.
Craciau hen ynteu diweddar?
Yn ôl uwch swyddog iechyd yr amgylchedd y cyngor Celvin Davies mae'n ymddangos bod y dŵr yn dod o sawl cyfeiriad.
Dywedodd ei fod wedi dod o hyd i graciau newydd ar hyd cefn un o'r tai ers y gorchymyn yn gorfodi pobl i symud o'u cartrefi - craciau a fyddai'n awgrymu symudiad pellach y tu ôl i'r tŷ petai nhw'n rhai diweddar.
Mae perchennog y tŷ yn dweud bod y craciau hynny yno erioed.
Dywedodd Mr Davies: "Doedden ni ddim mo'yn gweithredu fel hyn. Roedden ni mo'yn i'r perchnogion geisio datrys y mater gyda'u cwmnïau yswiriant."
Wrth groesholi Mr Davies, dywedodd rhai o'r trigolion eu bod wedi cymryd camau mewn ymateb i'r sefyllfa, gan gynnwys gosod ffensys yn yr ardd gefn a chysylltu ceuffos ag un cymydog oedd heb ei effeithio gan y sefyllfa.
Atebodd Mr Davies bod y camau hynny ddim yn mynd yn ddigon pell i ddiddymu'r gorchymyn brys yn atal trigolion rhag byw yn eu cartrefi.
Doedd yr awdurdod lleol na Dŵr Cymru, meddai, yn fodlon danfon staff i'r ardal y tu ôl i'r tai i asesu'r sefyllfa.
Awgrymodd y dylai'r perchnogion benodi peiriannydd adeiladu ar y cyd i asesu cyflwr y tir a chwblhau gwaith angenrheidiol.
Mae disgwyl i'r tribiwnlys ailgychwyn yn y flwyddyn newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2017
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2017