Nadolig oddi cartre' wedi tirlithriad yn Ystalyfera

  • Cyhoeddwyd
Stryd

Ym mis Awst eleni bu'r diweddaraf mewn cyfres o dirlithriadau yn Ystalyfera oedd yn golygu bod nifer o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi. Aeth Rhys Williams i siarad gyda rhai sy'n gorfod treulio cyfnod yr Ŵyl i ffwrdd o'u cartref, a chael eu stori nhw.

Mae Morganne Bendle, 23 yn paratoi i adael ei llety dros dro yng Nghwm Tawe i dreulio'r Nadolig gyda'i chariad yng Nghaerdydd. Dyma fydd y tro cyntaf iddi beidio bod gyda'i theulu ar ddiwrnod yr ŵyl.

"Does dim lle yma - mae'r ystafelloedd yn rhy fach a bydd gormod ohonom ni yma. Dyw Lowri a Rowan ddim yn blant bach, ma' nhw'n fwy nawr, a bydd e'n fwy cyfleus a chyffyrddus i bawb os byse ni'n gadael. Bydd e'n rhyfedd iawn eleni i fi beidio bod gytre."

"Bysen ni ddim yn gallu mwynhau e gymaint os oedden ni gyd yma ar ben ein gilydd, ac i fod yn onest byse fe'n neis jyst gadael am bach dros y gwyliau achos dyw e ddim yn teimlo fel Nadolig."

Mae tŷ Morganne yn 1 o res o 10 ar Heol Cyfyng, Ystalyfera. Roedd yn byw yno gyda'i brodyr Rhys a Rowan, ei chwaer Lowri, a'i mam Amanda.

Ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni bu tirlithriadau y tu ôl i dai eu cymdogion. Yn yr un diwethaf diflannodd y rhan fwyaf o'r ardd drws nesa.

Doedd dim awgrym ar ôl hynny bod y cartref yn anniogel, na chwaith bod yn rhaid iddyn nhw adael.

Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r rhes o 10 o dai ar Heol Cyfyng orfod cael ei ddymchwel

Ond ym mis Awst cafon nhw, a'u cymdogion, orchymyn i adael eu cartrefi gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot gan fod yna "berygl gwirioneddol i'w bywydau".

Ar ôl bron i fis, daethon nhw o hyd i lety dros dro ychydig i lawr y cwm yn Ynysmeudwy, ond mae'r tŷ yn rhy fach. Bu rhaid i frawd Morganne, Rhys, symud allan, ac mae Amanda yn cysgu ar y soffa.

"Mae'n beth da iddo fe ond 'dy ni'n gweld ishe fe, achos 'dy ni braidd byth yn gweld e nawr. Dyw e ddim yn gyrru felly mae gweld e yn galed. Mae'n dda bod e wedi gallu dechrau o'r newydd, ond hoffwn i neud yr un peth."

Mam yn cysgu ar y soffa

"Mae gen i a'n brawd a chwaer ieuengaf ystafell yma ond wedyn mae Mam yn gorfod cysgu fan hyn yn yr ystafell fyw ar y soffa, oni bai bod Lowri a Rowan yn mynd at Dad, neu bo fi lan yng Nghaerdydd, ac wedyn mae'n gallu cysgu yn ein ystafelloedd gwely ni.

"Dyw e ddim yn gytre. Dyw e ddim yn ein tŷ ni. Ry'n ni methu troi e mewn i tŷ ni. Ni methu personoleiddio fe.

"Ma' fe jyst yn rhy fach ac mae bod mor crammed mewn at ein gilydd yn neud i ni ffraeo fwy, a ni angen bach mwy o wagle ond does dim gyda ni.

"Hoffwn ni fod gytre, neu hoffwn ni gael gytre i ddechrau o'r newydd, ond y'n ni methu ar hyn o bryd ac mae hwnna mor rhwystredig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae tirlithriad wedi digwydd yn yr ardal o'r blaen yn 2012

Gan fod Rowan a Lowri yn ddisgyblion blwyddyn 9 a 10 yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera, roedd rhaid cael llety yn lleol.

"Roedd llefydd oedd y cyngor yn trial cynnig i ni o'r blaen yn Llansawel. Er bod e yn yr ardal sydd yn cymryd plant i Ystalyfera, dyw e ddim yn gyfleus. Mae e'n bell i ffwrdd o deulu ni, byse fe mor galed i fi mynd i Brifysgol o'r ardal yna, achos dwi'n deffro'n gynnar yn barod i fynd i Brifysgol."

Straen ychwanegol

"Mae'n wa'th fyth ar Mam achos mae'n gweithio, ond wedyn mae'n trial neud y gwaith papur yma i gyd, mae'n trial neud y gwaith tuag at yr apêl, mae'n trial neud popeth ond achos mae'n byw yn yr ystafell fyw, mae hi ond yn gallu cael yr amser i'w hun pan i ni gyd yn mynd lan i gwely ac mae hwnna'n annheg."

Yn ôl Mam Morganne, Amanda Hopkins, mae'r Nadolig yn achosi straen ychwanegol.

"Unrhyw adeg o'r flwyddyn bydde'r sefyllfa hwn yn anodd. Ond mae'n anodd iawn i fynd i hwyl yr ŵyl a dwi jyst yn neud y gorau o bethau er lles Lowri a Rowan rili."

"Sai'n gwybod pa mor hir mae rhywun yn gallu cysgu ar y soffa cyn i broblemau ddechrau...Mae fy ystafell wely yn gwpwrdd lle dwi'n cadw dillad a pethau personol fi i gyd. Mae pawb arall yn gallu cau y drws ar ddiwedd y dydd, tra fy mod i yng nghanol y tŷ trwy'r amser."

Mae'r teulu, ynghyd a thrigolion 2 dŷ arall ar Heol Cyfyng, wrthi'n apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor ar hyn o bryd, ac yn ôl Ms Hopkins, gallai'r cyngor ddysgu llawer o wersi o'r sefyllfa.

"Os byse nhw wedi gofyn cwestiynau, gallen ni ddweud sut allen nhw wella sut y maen nhw'n ymateb os mae rhywbeth tebyg yn digwydd eto. Ond dydyn nhw ddim yn gofyn unrhyw beth, does fawr ddim o gyfathrebu rhyngddon ni."

Disgrifiad,

Dywedodd cynghorydd Ystalyfera, Alun Llewelyn bod profiadau rhai trigolion yn "ddirdynnol"

Dywedodd Morganne: "Fi'n credu mae Mam 'di bod yn hael iawn 'da be ma' hi 'di dweud. Ar ddiwedd y dydd maen nhw wedi gofyn i rywun arall i ailgartrefu ni...ond mae'r cyngor jyst 'di rhoi ni fan hyn a gadael ni fan hyn.

"Does dim un person 'di gofyn, 'Siwd i chi 'di setlo? Chi'n OK?' oni bai bod y menywod o Wallich wedi dod. Felly nhw yw'r rhai sydd wedi bod yn cysylltu yn neud yn siŵr bod ni'n OK fel pobl, ond dyw'r cyngor heb boeni amdano hwnna o gwbl."

"Gallen ni 'di cael ein rhoi mewn lle lot gwaeth. Mae'n ardal hyfryd a stryd neis ond dyw e ddim yn gytre. 'Dy ni methu bod yn hapus achos dyw e ddim yn gytre. 'Dy ni ddim yn gallu creu cartre' mas o hwn.

"Pan i fi ym Mhrifysgol dwi ddim yn edrych ymlaen at ddod 'nôl yma, dwi ddim yn teimlo fy mod i'n gallu ymlacio fan hyn. Ac mae'r straen o beidio gwybod pryd i ni'n mynd gytre neu os i ni'n mynd gytre o gwbl yn upsetting iawn. Ni'n teimlo'n drist iawn."