Dechrau ymgynghoriad ar atal cosbi plant yn gorfforol

  • Cyhoeddwyd
Mam yn taro plentynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gweinidog Plant yn cydnabod bod yna farn wahanol ynglŷn â'r ddeddf arfaethedig

Mae Llywodraeth Cymru yn dechrau ar y broses o gasglu barn pobl ar gynlluniau i ddod â chosbi plant yn gorfforol i ben yng Nghymru.

Bydd ymgynghoriad 12 wythnos yn dechrau ddydd Mawrth ar y cynnig i ddiddymu 'cosb resymol' fel amddiffyniad.

Mae elusennau gan gynnwys yr NSPCC yn dweud y bydd Cymru yn dilyn esiampl nifer o wledydd eraill drwy wneud hynny.

Ond mae'r rhai sy'n gwrthwynebu'n pryderu y gallai'r ddeddf olygu bod rhieni cyffredin yn cael eu gweld fel troseddwyr.

Dim trosedd newydd

Dyw'r ddeddfwriaeth arfaethedig ddim yn golygu creu trosedd newydd.

Yn hytrach byddai oedolyn sy'n gofalu am blentyn bellach ddim, o dan y gyfraith, yn gallu defnyddio cosb gorfforol yn erbyn y plentyn hwnnw.

Mae cosbi plentyn yn gorfforol wedi ei wahardd yn barod mewn ysgolion a llefydd gofal plant ond mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies eisiau "sicrhau nad yw'n dderbyniol unrhyw le".

Disgrifiad,

Dywed Huw Irranca-Davies fod barn y cyhoedd ar y mater wedi newid dros y blynyddoedd

Wrth lansio'r ymgynghoriad, dywedodd fod magu plant ddim yn hawdd.

"'Dyw plant ddim yn dod gyda chyfarwyddiadau ac weithiau mae angen help a chefnogaeth ar rieni i'w helpu i fagu plant iach a bodlon.

"Rydym yn gwybod bellach y gall cosb gorfforol gael effaith hirdymor negyddol ar gyfleoedd bywyd plant ac rydym hefyd yn gwybod nad yw'n effeithiol fel cosb.

"Dyma pam rydyn ni, fel llywodraeth, am gyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu'r amddiffyniad cosb resymol, i'w gwneud yn hollol glir nad yw cosbi plant yn gorfforol bellach yn dderbyniol yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Comisiynydd Plant Cymru ddim yn teimlo bod unrhyw "ddadl rhesymol" yn erbyn cyflwyno'r ddeddf

Ychwanegodd ei fod yn gwybod fod barn wahanol ar y pwnc a bod yr ymgynghoriad yn gyfle i'r llywodraeth glywed am bryderon pobl.

Croesawu'r ddeddf arfaethedig mae Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru gan ddweud y gallai Cymru "arwain y ffordd unwaith yn rhagor ym maes amddiffyn hawliau plant".

Mae Ffrainc, Sweden, Norwy, Denmarc a Gwlad yr Iâ eisoes wedi mabwysiadu cynllun tebyg i'r hyn sy'n cael ei awgrymu gan Lywodraeth Cymru.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 2 Ebrill 2018.