Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru i herio Iwerddon a Denmarc
- Cyhoeddwyd
Bydd tîm pêl-droed Cymru yn herio Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni.
Cafodd y grwpiau eu dewis mewn seremoni yn y Swistir ddydd Mercher, gyda Chymru yng Nghynghrair B y gystadleuaeth - yr ail haen o bedwar.
Mae'r gystadleuaeth newydd gan UEFA, fydd yn dechrau ym mis Medi, yn golygu llai o amser ar gyfer gemau cyfeillgar i dimau rhyngwladol Ewrop.
Dywedodd rheolwr newydd Cymru, Ryan Giggs, ei fod yn "edrych ymlaen" at yr her.
'Digon o gymhelliad'
Bydd Cymru'n wynebu Iwerddon gartref ar 6 Medi cyn teithio i Copenhagen ar 9 Medi, ac fe fyddan nhw'n teithio i Ddulyn ar 16 Hydref cyn croesawu Denmarc i Gaerdydd ar 16 Tachwedd.
"Dwi'n teimlo'n gyffrous", meddai Ryan Giggs wrth siarad gyda'r BBC ar ôl i'r enwau gael eu tynnu allan o'r het.
"Yn amlwg, ry'n ni'n nabod y timau sydd yn ein herbyn ni yn dda iawn, yn enwedig y Weriniaeth, gan ein bod ni wedi eu chwarae nhw yn ddiweddar, ac ry'n ni'n nabod y chwaraewyr fel unigolion hefyd.
"Ac mae Denmarc, a aeth 'mlaen i drechu'r Weriniaeth yn y gemau ail gyfle, yn dîm da iawn hefyd, gyda llawer o chwaraewyr o safon.
"Bydd digon o gymhelliad i'r chwaraewyr pan fyddwn ni'n chwarae yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon oherwydd y siom gawson ni adeg gemau Cwpan y Byd.
"Ond mae'n ddechrau newydd, yn amlwg mae 'na hyfforddwr newydd. Os mai nhw fydd un o'n gwrthwynebwyr cyntaf ni yn y gynghrair newydd, fe fyddwn ni'n edrych ymlaen."
Her newydd
Ond sut fydd y gystadleuaeth yn gweithio - a beth fydd y goblygiadau ar gyfer ymgyrch ragbrofol Euro 2020?
Mae UEFA wedi dweud y bydd y gystadleuaeth newydd yn "creu gemau mwy cystadleuol ac arwyddocaol i dimau, a strwythur a chalendr pwrpasol ar gyfer pêl-droed rhyngwladol".
Un o nodweddion Cynghrair y Cenhedloedd yw y bydd timau yn chwarae rhai eraill o safon debyg, ac yn medru ennill dyrchafiad neu ddisgyn o un gynghrair i'r llall.
Bydd enillydd pob grŵp hefyd yn sicrhau lle yng ngemau ail gyfle Euro 2020, os nad ydyn nhw'n llwyddo i gyrraedd beth bynnag drwy'r rowndiau rhagbrofol arferol.
Ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd, mae UEFA wedi rhannu 55 o wledydd Ewrop i bedair cynghrair ar sail eu cryfder, gyda'r goreuon yng Nghynghrair A a'r isaf yng Nghynghrair D.
O fewn pob cynghrair mae'r timau wedi eu rhannu eto i bedwar grŵp llai, yn cynnwys tri neu bedwar tîm yr un.
Mae Cymru wedi eu dewis ymhlith prif ddetholion Cynghrair B gydag Awstria, Slofacia a Rwsia, gan olygu na fyddan nhw'n chwarae'r un o'r timau hynny.
Yn hytrach, bydd eu grŵp nhw'n cynnwys un tîm o bot dau (Sweden, Wcráin, Gweriniaeth Iwerddon neu Bosnia) ac un o bot tri (Gogledd Iwerddon, Denmarc, Gweriniaeth Czech neu Dwrci).
Bydd y timau'n chwarae ei gilydd gartref ac oddi cartref ym mis Medi, Hydref a Thachwedd 2018, gyda Chymru'n codi i Gynghrair A y tro nesaf os ydyn nhw'n ennill y grŵp, a disgyn i Gynghrair C os ydyn nhw'n gorffen ar y gwaelod.
Dylanwadu ar Ewro 2020
Dyw'r gystadleuaeth ddim yn sefyll ar ei phen ei hun fodd bynnag - mae'r canlyniadau hefyd yn dylanwadu ar y broses o gyrraedd Euro 2020.
Fe fydd perfformio'n dda yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn golygu gwell siawns o grŵp rhagbrofol haws ar gyfer yr Euros pan fydd y rheiny'n cael eu dewis yn Rhagfyr 2018.
Yn y gemau rhagbrofol hynny, fydd yn cael eu chwarae yn 2019, bydd dau dîm o bob grŵp yn ennill eu lle yn y twrnament terfynol.
Ond i unrhyw dîm fydd ddim wedi gorffen yn y ddau safle uchaf bydd dal cyfle arall i gyrraedd Euro 2020 drwy'r gemau ail gyfle, os oedd eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd eleni yn ddigon da.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2018