Biggar i fethu gemau cyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae'n edrych yn debyg na fydd Dan Biggar ar gael i Gymru ar gyfer tair gêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i'w ysgwydd.
Cafodd Biggar, 28 oed, ei anafu wrth i'r Gweilch golli 24-7 ddydd Sadwrn.
Dyw Undeb Rygbi Cymru ddim wedi rhyddhau manylion am yr anaf, ond y gred yw yw y bydd y maswr yn methu'r gemau yn erbyn Yr Alban, Lloegr ac Iwerddon.
Mae'n golygu nad yw dau brif ddewis Cymru ar gyfer safle'r maswr ar gael ar ddechrau'r bencampwriaeth, wedi i Rhys Priestland hefyd ddioddef o anaf i linyn y gar.
Y tri fydd yn cystadlu i wisgo'r crys 10 fydd Rhys Patchell, Owen Williams a Gareth Anscombe.
Cur pen arall i'r hyfforddwr Warren Gatland fydd absenoldeb Sam Warburton, Taulupe Faletau a Jonathan Davies, eto oherwydd anafiadau.
Bydd gêm agoriadol Cymru yn erbyn yr Alban yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 3 Chwefror, gyda'r garfan yn teithio i Twickenham yr wythnos ganlynol.