'Dim rhwystr' i godi treth cyngor Sir Benfro 12.5%
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n ymyrryd wrth i Gyngor Sir Benfro ystyried codi treth cyngor hyd at 12.5%.
Yn ôl aelod blaenllaw o'r awdurdod mae'n debygol iawn y bydd y cabinet yn argymell y cynnydd hwnnw pan fyddan nhw'n cyfarfod fis nesaf.
Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y cyngor yn llawn ym mis Mawrth.
Ddydd Mawrth, fe wnaeth cabinet Cyngor Powys hefyd argymell codiad o 5% yn y dreth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.
Angen arbed £16m
Mae'r aelod cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gyllid yng nghyngor Sir Benfro, Bob Kilmister, wedi amddiffyn y syniad o godi'r dreth.
Dywedodd bod lefelau treth cyngor yr awdurdod 30% yn llai nac unrhyw ardal arall yng Nghymru, ac y byddai cynnydd o 12.5% yn eu cynorthwyo i lenwi'r bwlch ariannol wrth iddyn nhw ddod o hyd i arbedion gwerth £16m.
Does dim trothwy ar faint y cynnydd mae awdurdod yn gallu ei orfodi, ond hyd yn hyn does dim un awdurdod yng Nghymru wedi mynd dros y trothwy o 5%, oedd wedi cael ei osod yn anffurfiol gan y llywodraeth.
Fis diwethaf fe wnaeth y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros lywodraeth leol, Alun Davies, ysgrifennu at yr awdurdod i ddweud y byddai hawl ganddyn nhw benderfynu ar godiad sy'n uwch na'r trothwy hynny.
Wythnos diwethaf fe wnaeth un o bwyllgorau Cyngor Penfro drafod argymhelliad o gynyddu'r dreth cyngor 8% ar ôl clywed na fyddai etholwyr yn cefnogi codiad o 12.5%.
Dywedodd Mr Kilmister: "Mae'n lefelau treth cyngor ni dipyn yn is na'r cyfartaledd yng Nghymru."
"Dwi'n ffyddiog bod gan y cyhoedd ddealltwriaeth o'r heriau sy'n ei wynebu. Dwi'n poeni am y cynnydd sy'n cael ei argymell, ond os na wnawn ni gymryd y cam hwn mi fydd y bwlch [rhwng y gwahanol awdurdodau] yn cynyddu."
Mae dros 1,000 o bobl wedi ymateb i ymgynghoriad ar y codiad posib, sydd ddeg gwaith yn uwch na'r arfer.
Ma Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cael cais am sylw.
Rhent i gynyddu
Yn y cyfamser mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod eu cabinet wedi cymeradwyo cynnig i gynyddu treth cyngor yn yr awdurdod o 5% yn y gyllideb ym mis Ebrill.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Rosmarie Harris, bod yr awdurdod yn "wynebu un o'r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes Cyngor Sir Powys", a bod rhaid newid y ffordd maen nhw'n darparu gwasanaethau.
Ymhlith yr argymhellion eraill sydd wedi cael sêl bendith y cabinet mae cynllun i gynyddu faint o rent mae tenantiaid yn ei dalu o 4.5%, sef £2.00 yr wythnos ar gyfartaledd.
Bydd yr argymhellion yn cael eu hystyried gan y cyngor yn llawn ym mis Chwefror.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2017