Cymry yn Lerpwl 'methu coelio'r peth' wedi digwyddiad parêd

Mae Cymry oedd yn Lerpwl yn dathlu llwyddiant y tîm pêl-droed mewn parêd ddydd Llun wedi dweud eu bod "methu coelio'r peth" ar ôl i gerbyd daro torf o bobl yno.

Dywedodd un - Tom Roberts o Gaernarfon - ei fod o fewn "eiliadau" o fod yn y fan a'r lle pan aeth y cerbyd i mewn i'r dorf, gan anafu degau o bobl.

Mae dyn 53 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio wedi'r digwyddiad.

Mae 11 o bobl yn parhau yn yr ysbyty, ond maen nhw oll mewn cyflwr sefydlog.

Elen Wyn fu yn Lerpwl ar ran rhaglen Newyddion S4C yn siarad gyda Chymry oedd yn yr orymdaith ddydd Llun.