Diddymu trwydded Radio Beca
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cael cadarnhad bod Ofcom wedi penderfynu diddymu trwydded radio gymunedol Radio Beca.
Roedd yr orsaf gymunedol yn gobeithio darlledu i'r hen Ddyfed trwy gyfrwng y Gymraeg rhwng amser brecwast ac amser tê, gyda rhai rhaglenni Saesneg gyda'r nos.
Ym mis Hydref 2014, cytunodd Pwyllgor Trwyddedu Darlledu Ofcom am estyniad pellach i'r dyddiad cau ar gyfer lansio'r gwasanaeth Radio tan ddiwedd mis Chwefror 2015.
Meini prawf
Yn ôl Ofcom, doedd Radio Beca ddim yn cwrdd â dau o dri o feini prawf gafodd eu gosod gan y Rheoleiddiwr.
Fe fethodd Radio Beca a sicrhau cefnogaeth ariannol o Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Llywodraeth Cymru, ac roedd yna ansicrwydd hefyd ynglŷn â lleoliad parhaol yr orsaf.
Mae BBC Cymru yn deall mai oddeutu £20,000 a gasglwyd ar gyfer Radio Beca, pan roedd angen £320,000 i ariannu'r orsaf a'r defnydd o'r trosglwyddyddion ym Mlaenplwyf, Carmel a Phreseli.
Mae'r orsaf wedi gwneud cais am gymhorthdal o £100,000 gan y Gronfa Loteri Fawr.
Dywedodd Euros Lewis, ysgrifennydd y fenter gymunedol, fod yna fywyd a momentwm yn parhau i berthyn i Radio Beca.
Dywedodd fod penderfyniad Ofcom, "yn broblem, yn rhwystr ond ddim yn ergyd farwol."
Mae Ofcom wedi ysgrifennu at Radio Beca i roi gwybod i'r orsaf am y penderfyniad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd19 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd28 Mai 2013