Aberystwyth: Ailsymud adrannau wedi dim ond pum mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod am symud rhai o'u hadrannau am yr ail waith mewn pum mlynedd, a hynny ar ôl gwario miliynau yn eu hadleoli.
Fe wnaeth y brifysgol wario £4.5m ar adnewyddu cyfleusterau campws Llanbadarn cyn i'r Ysgol Fusnes ac Ysgol y Gyfraith symud yno yn 2013.
Ond ddydd Gwener fe wnaethon nhw gyhoeddi y byddai'r adrannau yn symud yn ôl i gampws Penglais, ble roedden nhw wedi'u lleoli gynt.
Dywedodd y brifysgol wrth BBC Cymru Fyw fod y penderfyniad wedi cael ei wneud "fel rhan o adolygiad ehangach o'n strategaeth ystadau".
'Adolygiad ehangach'
Mewn neges i fyfyrwyr mynnodd y Dirprwy Is-ganghellor a Phrif Swyddog Gweithredu, Rebecca Davies nad oedd hynny'n golygu fod y brifysgol yn bwriadu cau'r campws yn Llanbadarn.
Mae'r campws yno yn cynnwys dwsinau o ystafelloedd darlithio a dysgu, yn ogystal â swyddfeydd staff a myfyrwyr uwchraddedig, bwyty, gofodau grŵp, llyfrgell, ac ystafelloedd cyfrifiaduron.
"Rydym yn bwriadu parhau i ddefnyddio'r adeiladau ar gyfer ystod o ddibenion academaidd yn y dyfodol," ychwanegodd y brifysgol.
"Mae gwaith manwl yn mynd rhagddo i sicrhau bod yr adleoliad yn digwydd yn y modd mwyaf hwylus posib i fyfyrwyr a staff."
Y bwriad yw symud swyddfeydd a darlithoedd yr adrannau Busnes, y Gyfraith, a Rheoli Gwybodaeth (iMLA) i gampws Penglais erbyn mis Medi 2018.
Ym mis Rhagfyr 2017 fe gyhoeddodd Prifysgol Aberystwyth eu bod yn cau eu campws ar ynys Mauritius yng Nghefnfor India, a hynny ddwy flynedd yn unig wedi iddo agor ei ddrysau.
Daeth i'r amlwg yn ddiweddarach fod y fenter wedi costio dros £1m i'r brifysgol.
Yn yr hydref fe ddywedodd y brifysgol y byddai 11 o swyddi academaidd yn cael eu colli fel rhan o gynllun i geisio gwneud arbedion o £6m.
Y llynedd fe ysgrifennodd yr is-ganghellor newydd, Elizabeth Treasure, lythyr at staff yn gofyn iddyn nhw ystyried diswyddiadau gwirfoddol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd22 Medi 2017