Andrew 'Tommo' Thomas yn gadael BBC Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tommo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tommo wedi bod yn cyflwyno rhaglen yn y prynhawn ar BBC Radio Cymru ers 2014

Mae Radio Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyflwynydd Andrew 'Tommo' Thomas yn gadael yr orsaf ar ôl pedair mlynedd.

Cafodd staff yr orsaf wybod y bydd Ifan Jones Evans yn cyflwyno rhaglen o ddydd Llun i ddydd Iau o 14:00 i 17:00.

Ar ei dudalen Facebook, fe gadarhaodd Tommo y bydd yn gadael yr orsaf i gyflwyno sioe ddyddiol newydd ar Nation Broadcasting, dolen allanol.

Dywedodd Golygydd BBC Radio Cymru Betsan Powys ei bod "dymuno'n dda iddo gyda'i sioe newydd ac ar bennod newydd sbon 'swnllyd' arall yn ei yrfa".

Symud ymlaen

Mewn datganiad, dywedodd Tommo: "Ers pedair blynedd, dwi wedi bod yn lwcus iawn o gael darlledu ar BBC Radio Cymru o ddydd Llun tan ddydd Iau rhwng 2 a 5."

"Nid pawb sy'n cael cyfle a'r anrhydedd honno, a galla i byth ag egluro gymaint dwi wedi joio'r cyfnod.

"Ond pan ddaeth cyfle unigryw yn ddiweddar i fynd yn ôl i 'ngwreiddie, roedd y gwahoddiad yn un na allwn wrthod."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tommo yn llais cyfarwydd i wrandawyr Radio Sir Gâr a Radio Ceredigion cyn ymuno â'r BBC yn 2014

Fe ddechreuodd Tommo ddarlledu ar Radio Cymru ym mis Mawrth 2014, gyda'i raglen yn cael ei darlledu o stiwdio y BBC yng Nghaerfyrddin - rhaglen sydd o dan ofal cwmni allanol, Telesgop.

Ym mis Gorffennaf 2017 cafodd Tommo gyfnod oddi ar yr awyr wrth i'r BBC gynnal ymchwiliad yn ei erbyn yn dilyn cwyn a oedd yn deillio o sylwadau a wnaeth e yn ystod Gŵyl Nôl a Mla'n yn Llangrannog.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru ar y pryd bod ymchwiliad mewnol wedi ei gynnal a bod Tommo "wedi ysgrifennu at drefnwyr Gŵyl Nôl a Mlan i ymddiheuro yn ddiamod am yr hyn a ddywedodd tra'n cyflwyno".

Rhaglen y prynhawn

Ar hyn o bryd mae Ifan Jones Evans yn cyflwyno rhaglen fore Sadwrn o stiwdio'r BBC yn Aberystwyth.

O fis Mawrth ymlaen fe fydd e'n gyfrifol am raglenni prynhawniau Llun i Iau, gyda Tudur Owen yn parhau i gyflwyno ei raglen brynhawn Gwener.

Ffynhonnell y llun, Ifan Jones Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Ifan Jones Evans gyflwyno ar wasanaeth C2 BBC Radio Cymru yn Nhachwedd 2010

Dywedodd Ifan Jones Evans: "Fe fydd gyda fi esgidiau mawr i'w llenwi ond dwi wrth 'y modd bod y cyfle wedi dod i gadw cwmni i wrandawyr yn y p'nawnie. "

"Y nod yw cynnig digonedd o gerddoriaeth, bach o sbort a chystadlu a chlywed lleisiau'r gwrandawyr yn ymuno'n yr hwyl.

"Fi'n gobeithio bydd y criw sydd wedi bod yn gwrando ar ddydd Sadwrn yn dod 'da fi, a chadw cwmni i fi yn ystod yr wythnos o hyn ymlaen."