AC yn gwybod cyn Carl Sargeant am honiadau yn ei erbyn

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant

Mae BBC Cymru ar ddeall fod AC Llafur yn ymwybodol o'r honiadau yn erbyn Carl Sargeant a'r ffaith ei fod am gael ei ddiswyddo cyn iddo gael gwybod ei hun.

Fe wnaeth yr AC dderbyn neges destun yn dweud fod Mr Sargeant am gael ei ddiswyddo yn dilyn cwynion am ei ymddygiad.

Fe gafodd natur cynnwys y neges ei amlinellu i'r Prif Weinidog, Carwyn Jones ac ACau Llafur ddau ddiwrnod wedi marwolaeth Mr Sargeant.

Ni wnaeth Prif Was Sifil Cymru ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod gwybodaeth wedi'i ddosbarthu heb ganiatâd ynglŷn â'r adrefnu.

'Cyffwrdd dynes'

Gofynnwyd i'r Ysgrifennydd Parhaol, Shan Morgan i ymchwilio os oedd y wybodaeth wedi'i ollwng.

Deellir fod brawddeg o'r neges destun wedi ei dyfynnu mewn cyfarfod o grŵp Llafur yn y Cynulliad, ac roedd yn cyfeirio at honiad o "gyffwrdd dynes".

Mae ffynhonnell a oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi dweud fod y neges yn codi "cwestiynau difrifol."

Dywedodd y ffynhonnell: "Mae'r ffaith fod AC wedi cael clywed am fwriad i ddiswyddo Carl Sargeant cyn yr ad-drefnu yn codi cwestiynau difrifol.

"Oedd y sawl oedd yn cwyno neu rywun sy'n agos atyn nhw yn ymwybodol o hyn drwy rywun yn Llywodraeth Cymru?"

Dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones: "Fe gafodd y neges yma ei ymchwilio fel rhan o'r ymchwiliad i ollwng gwybodaeth,

"Daeth i'r amlwg nad oedd unrhyw beth wedi'i ollwng gan Lywodraeth Cymru.

"Ni allwn wneud sylw pellach heb fod risg y gwnawn ddatgan gwybodaeth allai arwain at adnabod y sawl wnaeth gwyno."