Y cabinet yn rhanedig dros ethol arweinydd nesaf Llafur
- Cyhoeddwyd

Mae BBC Cymru ar ddeall fod cabinet Carwyn Jones yn rhanedig dros y system y bydd Llafur Cymru yn ei ddefnyddio i ethol eu harweinydd nesaf.
Mae pump o uwch weinidogion y llywodraeth yn dymuno bod pleidleisiau aelodau cyffredin y blaid yn cario mwy o bwysau wrth ethol olynydd i Mr Jones.
Mae penaethiaid y blaid, gan gynnwys y prif weinidog, wedi penderfynu cadw'r coleg etholiadaol i ethol arweinydd nesaf Llafur Cymru - system wahanol i'r un a ddefnyddiwyd i ddewis Jeremy Corbyn.
Ond mae ymgyrch ar y gweill i newid y penderfyniad, gan osod cynsail ar gyfer gwrthdaro yng nghynhadledd Llafur Cymru ym mis Ebrill.
Un-aelod-un-bleidlais
Enillodd Mr Corbyn ac arweinydd y Blaid Lafur yn Yr Alban, Richard Leonard, eu hetholiadau arweinyddiaeth drwy system un-aelod-un-bleidlais (OMOV), ond penderfynodd gweithgor Llafur Cymru ym mis Tachwedd i gadw'r system o ddewis arweinydd drwy'r coleg etholiadol.
Mae'r coleg yn rhannu'n dri grŵp - gwleidyddion, aelodau cyffredin ac undebau - ac yn pwyso a mesur eu pleidleisiau.
Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi siarad o blaid OMOV, ond mae BBC Cymru yn deall bod Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates, yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Alun Davies, yr Ysgrifennydd Ynni Lesley Griffiths, ac Arweinydd y Cynulliad Julie James yn cytuno gyda Mr Drakeford.

Enillodd Jeremy Corbyn yr etholiad ar gyfer arweinyddiaeth y blaid yn genedlaethol drwy system un-aelod-un-bleidlais
Mae cadw'r coleg etholiadol wedi poeni rhai aelodau, sy'n credu y dylai cynhadledd y blaid gael y gair olaf ar y mater.
Mae cefnogwyr OMOV am orfodi pleidlais yn y gynhadledd a fydd yn ailagor y mater i drafodaeth, ac o bosib yn newid penderfyniad y gweithgor.
Dywedodd ffynhonnell sy'n agos at y prif weinidog fod rheolau'r etholiad arweinyddiaeth wedi "cael eu rhoi i'r gwely" a bod rheolau'r blaid yn datgan na all y mater ddychwelyd i'r gynhadledd tan 2019.
Dywedodd Mr Jones fod y coleg "wedi ein gwasanaethu'n dda iawn".
Am y tro cyntaf, bydd Llafur Cymru eleni yn ethol dirprwy arweinydd - swydd sy'n gorfod mynd i ddynes.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod cynhadledd y blaid yn 2017 wedi penderfynu mai'r gweithgor fyddai'n penderfynu trefn etholiadau, a'u bod wedi "cytuno'n unfrydol" ar 4 Tachwedd i gadw'r coleg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Medi 2016
- Cyhoeddwyd12 Medi 2015
- Cyhoeddwyd12 Medi 2015