Achosion ffliw dal yn uchel ond wedi dod i'w 'hanterth'

  • Cyhoeddwyd
Dynes efo ffliwFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ym mis Ionawr roedd yna gyngor i gadw draw o'r ysbytai oherwydd y cynnydd mewn achosion o'r ffliw

Mae nifer yr achosion newydd o'r ffliw yn parhau'n uwch na phob un o'r blynyddoedd yn y chwe blynedd diwethaf medd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond mae'r corff yn dweud bod yr achosion wedi dod i'w hanterth erbyn hyn.

Ym mis Ionawr roedd nifer y bobl oedd wedi ymweld â'u meddygon teulu gyda symptomau o'r ffliw wedi cyrraedd "lefelau uchel dwys".

Llai o achosion newydd

Cafodd cleifion gyngor i beidio mynd i'r ysbyty am fod "cynnydd sylweddol" mewn achosion yn yr ysbytai hefyd.

Yn ystod y pythefnos diwethaf mae nifer yr achosion newydd wedi disgyn.

Dywedodd Dr Chris Williams, ymgynghorydd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod "nifer o bobl sydd yn mynd i gael y ffliw rhwng nawr a diwedd y tymor, ond fe allwch chi dal geisio arbed y risg o'i ddal."

Ar ei anterth roedd ffigyrau yn dangos bod 64.9 o ymgynghoriadau bob 100,000 o bobl ynglŷn â'r afiechyd.

Ffynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru yw y dylai pobl sydd â chyflyrau cronig neu sy'n feichiog gael eu brechu

Ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod hyn wedi disgyn i 44.3 o ymgynghoriadau ar gyfer bob 100,000 o bobl.

Y pryder yw mai dim ond 48% o bobl feichiog neu a chyflyrau cronig fel y galon, yr ysgyfaint, afu a'r arennau sydd wedi derbyn y brechiad ffliw.

Dal cyfle i frechu

Dyw Dr Williams ddim yn gwybod y rheswm am hynny.

"Mae pobl yn aml yn meddwl nad ydyn nhw mewn perygl o'i ddal. Ond mae'r rhai 'sydd mewn perygl' y math o bobl fydd yn cael cymhlethdodau o'r ffliw ac fe allan nhw orfod mynd i'r ysbyty."

Ychwanegodd bod dal amser i gael y brechlyn.

"Mae'r tymor yn para tua 14 wythnos. Wythnos chwech yw hi nawr ac mae'r brechlyn yn cymryd 10 diwrnod i ddechrau gweithio," meddai.