Llywodraeth yn dileu swydd Comisiynydd 'yn ddistaw bach'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio dileu swydd Comisiynydd y Gymraeg "yn ddistaw bach", yn ôl mudiad ymgyrchu.
Yn haf y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cynlluniau i greu Comisiwn Iaith Gymraeg yn hytrach nag un ffigwr i hybu'r iaith.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg nawr yn dweud y gallai fod cyfnod heb neb i reoleiddio'r iaith.
Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ei bod yn "ffyddiog" fod cynllunio ar gyfer ei holynydd wedi dechrau.
Dau lythyr
Mae Ms Huws wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ddwywaith i atgoffa gweinidogion bod ei chyfnod o saith mlynedd yn y swydd yn dod i ben yng ngwanwyn 2019.
Ond mae BBC Cymru ar ddeall nad yw wedi derbyn ateb i'w llythyr i'r Prif Weinidog yn yr hydref nac i'w llythyr at y gweinidog sy'n gyfrifol am yr iaith, Eluned Morgan fis diwethaf.
Dywedodd Colin Nosworthy o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae hyn yn bryderus ac yn anarferol.
"Pwy sydd yn mynd i'w holynu hi? Fydd 'na neb ar gael i reoleiddio'r maes o gwbwl? Ac mae 'na gwestiynau difrifol i'w gofyn ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth yn ymddwyn.
A oes 'na gynllun dirgel i gael gwared ar y Comisiynydd?"
"Mae hwn yn ymddangos fel dull distaw bach o ddileu swydd Comisiynydd y Gymraeg er gwaetha'r ffaith fod mwyafrif y bobl a ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru wedi dweud na ddylid dileu'r swydd."
'Newid er mwyn newid yn annerbyniol'
Fe gafodd ymgais gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i gymryd cyfrifoldeb am rai o ddyletswyddau Comisiynydd y Gymraeg ei wrthod gan Eluned Morgan.
Dywedodd hi fod trafferthion y syniad "yn fwy na'r buddion".
Yn flaenorol mae Meri Huws wedi dweud ei bod am weld tystiolaeth y bydd unrhyw newid i'r strwythur presennol yn arwain at gryfhau'r iaith Gymraeg.
Pan lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgynghoriad, dywedodd Ms Huws fod "newid er mwyn newid ddim yn dderbyniol".
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg: "Ysgrifennodd Meri Huws at y Prif Weinidog a'r Gweinidog dros yr Iaith Gymraeg ac Addysg Gydol Oes er mwyn nodi bod ei chyfnod fel Comisiynydd y Gymraeg yn dod i ben ar ddiwrnod olaf Mawrth 2019, a'i bod yn hyderu fod y broses o benodi'r Comisiynydd newydd ar y gweill.
"Ni wnaeth ofyn unrhyw gwestiynau penodol yn y llythyrau."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog wedi derbyn llythyr y Comisiynydd ac yn paratoi ymateb i egluro bod y gwaith cynllunio ar gyfer y broses i recriwtio'i holynydd yn mynd rhagddo.
"Bydd y broses yn cychwyn mewn da o bryd i sicrhau y bydd Comisiynydd newydd yn ei le/lle erbyn Mawrth 2019."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd9 Awst 2017