Carwyn Jones: 'Ddim yno eto' ar gytundeb mesur Brexit
- Cyhoeddwyd
Dyw llywodraethau Cymru a'r DU "ddim yna eto" wrth iddyn nhw geisio dod i gytundeb ar ddeddfwriaeth Brexit, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Ond wrth siarad ar ôl cwrdd â Theresa May a Nicola Sturgeon, dywedodd Mr Jones fod "cynnydd wedi'i wneud" ar y Mesur Ymadael.
Mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi honni fod y mesur yn ymgais gan Whitehall i "gipio pŵer".
Mae Llywodraeth y DU yn mynnu y byddai'r newidiadau y maen nhw wedi'u cyflwyno i'r mesur yn cryfhau datganoli.
Yn ogystal â Brexit, fe wnaeth Mr Jones a Mrs May drafod sawl mater arall gan gynnwys yr ymateb i wenwyno yng Nghaersallog.
'Opsiwn wrth gefn'
Yn dilyn y cyfarfod diweddaraf, dywedodd Mr Jones: "Rydyn ni eisiau sicrhau bod modd i ni ddod i gytundeb ar ble mae'r pwerau a sut fyddwn ni'n delio gyda nhw yn y dyfodol.
"Mae cynnydd wedi'i wneud ond dwi ddim mewn sefyllfa eto i argymell i'r Cynulliad y dylen ni gydsynio i'r Bil Ymadael, a Chymal 11 yn benodol.
"Rydw i'n gobeithio y byddwn ni mewn lle yn y dyddiau nesaf - dim mwy nag wythnos neu ddwy. Mae amser yn mynd yn brin ond dydyn ni ddim yno eto."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Downing Street fod Theresa May wedi cytuno "y dylen nhw barhau i weithio gyda'i gilydd" i ddod o hyd i ddatrysiad.
"Fe wnaeth y prif weinidog [Carwyn Jones] hefyd godi morlyn llanw Bae Abertawe, datganoli Treth Teithwyr Awyr, a'r datblygiadau diweddar yn yr UDA ynghylch dur."
'Ymateb cadarn'
Yn ogystal, dywedodd Llywodraeth Cymru bod Mr Jones wedi cynnig ei gefnogaeth i Mrs May yn ei hymateb "cadarn a chymesur" i Rwsia yn sgil y digwyddiad o wenwyno yng Nghaersallog.
Daw ymateb Mr Jones er i lefarydd ar ran arweinydd Prydeinig Llafur, Jeremy Corbyn, godi cwestiynau am ran Rwsia yn y digwyddiad.
Ddydd Llun, fe gyflwynodd Llywodraeth y DU newidiadau arfaethedig i'r mesur ar Brexit, wedi misoedd o drafod â'r llywodraethau datganoledig.
Yn ôl Llywodraeth y DU fe fyddai'r newidiadau, sydd angen cael eu cymeradwyo gan Dŷ'r Arglwyddi, yn cryfhau datganoli.
Cyn y cyfarfod ddydd Mercher dywedodd Mr Jones nad oedd cynnig diweddaraf Llywodraeth y DU wedi bod yn ddigonol.
"Rydyn ni eisiau datrys hyn ac rydyn ni'n benderfynol o ddal ati i geisio cael cytundeb cyn i'r mesur ddod i ben ei daith drwy'r Senedd, ond nid yw amser o'n plaid.
"Dyna pam y byddwn ni'n parhau i lywio ein Mesur Parhad drwy'r Cynulliad. Ond, fel yr ydyn ni wedi dweud sawl gwaith, dim ond opsiwn wrth gefn yw hwn."
Rhestr o bwerau
Bwriad y Mesur Ymadael yw sicrhau bod y deddfau Ewropeaidd presennol yn cael eu trosglwyddo i ddeddfwriaeth y DU ar ôl Brexit, gan roi'r grym i San Steffan newid pethau.
Dan y mesur presennol, heb y gwelliannau, byddai pwerau mewn rhai meysydd datganoledig yn dychwelyd i Lundain yn hytrach nag i Gaerdydd, Caeredin a Belfast.
Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd gweinidogion y DU restr o'r pwerau fyddai'n cael eu cadw yn San Steffan dros dro, oedd yn cynnwys meysydd fel labelu bwyd a chymorth amaethyddol.
Ond does dim cytundeb terfynol eto ar sut i ddatrys y ffrae ynghylch pwy fydd yn gyfrifol am beth yn dilyn Brexit.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Theresa May: "Byddaf yn gwneud yn glir fy ymrwymiad i gytundeb sy'n dod â'n gwlad yn nes, gwarchod diogelwch a ffyniant ein holl gymunedau a busnesau, a chryfhau undeb ein cenhedloedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2018