Argymell Ysbyty Athrofaol Cymru fel canolfan drawma
- Cyhoeddwyd
Yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd ddylai fod y ganolfan drawma gyntaf yn y wlad yn ôl argymhelliad gan benaethiaid Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
Ysbyty Treforys ger Abertawe oedd yr ysbyty arall oedd wedi gwneud cais i gael y statws arbennig.
Bydd y ganolfan yn arbenigo mewn gofal cleifion ag anafiadau allai beryglu bywydau.
Cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud mae dal angen sêl bendith gan y chwe bwrdd iechyd yng Nghymru yr wythnos nesaf.
Arbenigedd anafiadau difrifol
Mae penaethiaid iechyd wedi cytuno gyda chanfyddiadau panel annibynnol i sefydlu'r ganolfan yng Nghaerdydd.
Yr arbenigedd wrth ddelio gydag anafiadau pen a phlant sydd wedi eu hanafu yn ddifrifol oedd y ffactorau wnaeth olygu mai'r ysbyty yn y brifddinas gafodd ei ddewis.
Bydd y ganolfan yn delio gyda chleifion o'r de, y gorllewin a de Powys.
Mae pobl sydd yn byw yn y gogledd yn cael eu hanfon i ogledd Stafford.
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus doedd GIG Cydweithredol Cymru ddim yn gallu dod o hyd i reswm i wrthod nac i newid canfyddiadau'r panel sef:
Dylai rhwydwaith drawma gael ei "ddatblygu'n gyflym" gydag amserlen "glir a realistig";
Dylai'r ganolfan drawma i blant ac oedolion fod ar yr un safle;
Dylai'r ganolfan - y cyntaf yng Nghymru - fod yng Nghaerdydd;
Dylai Ysbyty Treforys, Abertawe ddod yn uned drawma a chwarae "rôl flaenllaw" yn y rhwydwaith drawma.
Fe ddechreuodd trafodaethau am sefydlu rhwydwaith drawma yn ne Cymru yn 2014.
Yn gynnar yn y broses y casgliad oedd mai dim ond Caerdydd a Threforys allai ddarparu'r gwasanaethau arbenigol angenrheidiol.
Roedd Treforys, sy'n ganolfan nodedig ar gyfer llosgiadau a llawdriniaethau plastig, wedi dadlau fod lleoliad yr ysbyty hwnnw yn fwy addas gan fod canran uwch o boblogaeth y de yn byw o fewn awr i Dreforys.
Roedd mwy na hanner yr ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn dod o Abertawe a dyma o le y daeth y gwrthwynebiad mwyaf llafar i'r argymhellion hefyd.
'Abertawe'n ddewis gwell'
Ond yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Dr Dai Lloyd, byddai Ysbyty Treforys yn Abertawe yn ddewis gwell am y byddai'n help i gadw unedau arbenigol yng Nghymru yn hytrach na dros y ffin.
"Mae poblogaeth de Cymru yn ddigon mawr - dros ddwy filiwn a hanner o bobl - i gyfiawnhau cael o leiaf rhai o'r pethau arbenigol yma yn Abertawe," meddai.
"Y broblem 'efo lleoli pob peth yng Nghaerdydd ydy os gawn ni adolygiad ar raddfa Brydeinig, fydd e'n penderfynu bod Caerdydd yn eitha' agos i Fryste a bydd e'n diweddu lan yn fanno."
Ychwanegodd: "Mae iechyd wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a 'da ni'n sôn am gadw gwasanaethau arbenigol yma yng Nghymru.
"Yn ddaearyddol ac wrth sôn am boblogaeth gorllewin a chanolbarth Cymru, mae Treforys yn llawer nes ac yn gwneud mwy o synnwyr er mwyn i ni allu cadw'r gwasanaethau yma yng Nghymru."
Ychwanegodd y gallai lleoli'r ganolfan yng Nghaerdydd beryglu dyfodol yr uned arbenigol llosgiadau yn Ysbyty Treforys.
Cleifion y gogledd
Ond roedd y ffigyrau blaenllaw o fewn y gwasanaeth iechyd yn cefnogi barn y panel na fyddai gan Gaerdydd nac Abertawe unrhyw "fantais arwyddocaol dros y llall".
Mae'r gwasanaethau ar gyfer cleifion ag anafiadau difrifol yn y gogledd a rhannau o'r canolbarth yn cael eu darparu trwy rwydwaith trawma Gogledd-orllewin Canolbarth Lloegr/Gogledd Cymru.
Ysbyty Athrofaol Brenhinol Stoke yw'r ganolfan drawma difrifol ar gyfer y rhwydwaith ac mae 17% o'i holl gleifion yn dod ar draws y ffin.
Ers i'r rhwydwaith hwnnw gael ei sefydlu chwe blynedd yn ôl mae lleihad o 63% yng nghyfradd marwolaethau yn sgil achosion trawma.
Yn ôl Dr Ann Marie Morris, ymgynghorydd meddygaeth brys yn Stoke, mae'r gofal arbenigol "o'r cyfnod pan mae'r claf yn cyrraedd yn gwneud gwahaniaeth mawr ac mae'r arbenigedd wedi ei ganoli, 24-7, sydd ddim yn bosib ymhob ysbyty yn y wlad".
Dywedodd Dr Morris, sy'n wreiddiol o Gwm Rhymni: "Dw i'n credu ei fod yn gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion o ogledd Cymru.
"Rydyn ni'n gweithio'n galed gyda'r holl unedau trawma a dw i'n gobeithio bydd y sefyllfa'r un peth yn fuan i fy nheulu yn ne Cymru."
Un dyn sydd wedi derbyn triniaeth yn yr uned trawma yn Stoke yw Llŷr ap Glyn o Lanrwst.
Cafodd ddamwain car ym mis Chwefror 2017 a chael nifer o anafiadau difrifol gan gynnwys ei organau mewnol a thorri esgyrn.
Fe dreuliodd bythefnos yn yr ysbyty ac mae'n gwella erbyn hyn.
"Mae'r ffaith bod ni yng ngogledd Cymru yn gallu defnyddio yr uned arbenigol yn Stoke, wel mae o wedi achub fy mywyd i achos fysa'r arbenigedd ddim yna yn yr ysbytai llai.
"Dw i wrth gwrs yn eithriadol o ddiolchgar am hynny achos dyna pam rydw i yma heddiw."
Wrth ymateb i bryderon am lwyth gwaith yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, dywedodd penaethiaid y GIG y bydd Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn cynnal adolygiad o ba wasanaethau rhanbarthol fyddai modd cael eu darparu yn "saff ac addas mewn ysbytai eraill".
Dywedodd y llefarydd bod trafodaethau cychwynnol wedi dechrau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn ag atebion tymor hir.
Yn ôl yr ymgynghorydd Jack Parry-Jones, sydd ar fwrdd y Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys, mae hi'n hanfodol bod adnoddau yn cael eu rhoi i staffio gofal critigol os yw'r ganolfan trawma yn mynd i lwyddo.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2017