Archesgob: 'Trethi uwch yw'r ateb i well gwasanaethau?'
- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib bydd yn rhaid i'r Eglwys yng Nghymru ddadlau bod yn rhaid "gael trethi uwch" os am gael gwell gwasanaethau cyhoeddus - dyna neges Archesgob Cymru.
Rhybuddiodd y Parchedicaf John Davies fod "gwasanaethau yn lleihau" a bod "cymunedau yn ymddatod".
Dywedodd hefyd y gallai'r eglwys "roi llais" i'r "rhai sy'n teimlo bod eu bywydau yn cael eu crebachu gan un gwasgfa ar ôl y llall".
Gwnaeth Mr Davies ei sylwadau tra'n cael ei gyfweld ar gyfer rhaglen Sunday Politics Wales.
Cafodd Mr Davies ei ethol yn Archesgob Cymru fis Medi diwethaf,
'Angen i'r eglwys siarad ar ran pobl'
Yn ei gyfweliad nododd fod rhannau helaeth o Gymru yn wledig.
"Mewn mannau," meddai, "mae Cymru yn wledig iawn ac mewn amryw o leoedd mae gwasanaethau yn crebachu.
"Mae yna bwysau ar deuluoedd, mae rhwydwaith trafnidiaeth yn broblem ac y mae heriau mawr hefyd mewn ardaloedd dinesig.
"Mae yna dlodi - tlodi o wahanol fathau mewn gwahanol fannau ac yn fynych does 'na ddim agosatrwydd cymunedol.
"Mae'r hyn a oedd yn cael ei gymryd yn ganiataol flynyddoedd yn ôl yn prysur ddiflannu.
"Petawn ond yn gallu bod yn gatalydd fyddai'n gallu dod â'r cymunedau yma yn ôl at ei gilydd. Mae'n dderbyniol i'r eglwys fod yn llais i'r "rhai sy'n teimlo bod eu bywydau yn cael eu crebachu gan un gwasgfa ar ôl y llall."
'Trethi uwch'
Ychwanegodd Mr Davies bod angen i'r eglwys "siarad ar ran pobl na sy'n gallu gwneud hynny".
"Efallai weithiau," meddai, "bydd yn rhaid i ni ddweud pethau anghyfforddus ynglŷn ag ariannu gwell gwasanaethau.
"Yn y pen draw, dwi'n dyfalu y bydd yn rhaid i'r arian ddod o bocedi pobl. Os ydych am well gwasanaethau mae'n rhaid talu amdanynt.
"Rhaid edrych yn ofalus ar wariant cyhoeddus a sicrhau ein bod yn cael gwerth ein harian.
"Ond ar ddiwedd y dydd os ydym am i bethau fod yn well mae'n rhaid i ni fod yn barod i dalu am hynny.
"Ac felly - trethi uwch o bosib."
Yn ôl Mr Davies, a gafodd ei ordeinio yn 1984 wedi gyrfa ym myd y gyfraith, dyw gwneud datganiad o'r fath "ddim yn ddatganiad gwleidyddol".
Ychwanegodd fod "gwasanaethau cyhoeddus yna i wasnaethau'r cyhoedd ac felly mae'r cyhoedd, o fewn eu gallu, yn mynd i dalu amdanynt.
"Ond mae'n rhaid i'r cyfan fod yn deg."
Mae Sunday Politics Wales ar BBC 1 am 11:00 ar 25 Mawrth ac wedi hynny ar iPlayer y BBC.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2017