Neges Archesgob am 'newyddion ffug'

  • Cyhoeddwyd
John Davies is the new Archbishop of Wales.Ffynhonnell y llun, Church in Wales

Bydd Archesgob Cymru yn cyfeirio ar newyddion ffug yn ei bregeth Pasg yng nghadeirlan Aberhonddu ddydd Sul.

Mae disgwyl i'r Parchedicaf John Davies ddweud wrth addolwyr am beidio credu popeth y maen nhw'n ei glywed wrth i'r gymuned Gristnogol baratoi i ddathlu atgyfodiad Crist.

Fe fydd yn cymharu'r atgyfodiad gyda newyddion ffug, gan ddweud fod pobl y cyfnod wedi cael eu dilorni am ddweud eu bod wedi gweld Iesu yn fyw.

Bydd hefyd yn annog y gynulleidfa i gynorthwyo'r rhai sy'n cael trafferthion mewn bywyd.

'Straeon gwag'

Wrth son am gyfnod yr atgyfodiad, fe fydd yr Archesgob yn dweud: "Yn y dechrau roedd y pethau yr oedden nhw'n eu dweud yn cael eu hamau a'u diystyru - cael eu trin fel straeon gwag - yn cael eu dilorni'n llwyr. Yn iaith heddiw, roedden nhw'n cael eu trin fel 'newyddion ffug'.

"Ond oherwydd profiadau'r holl bobl yna wedyn fe dyfodd ffydd a sicrwydd o weddillion amheuaeth a sen. Daeth newyddion ffug i fod yn Newyddion Da."

Bydd hefyd yn galw am gymorth i bobl anghenus.

"Peidiwch byth a thanamcangyfrif gwerth gweithred syml o gariad a charedigrwydd i rywun sydd mewn lle tywyll... rhywun sydd ar i lawr ac yn methu suddo'n is."

Bydd y gwasanaeth Pasg yng Nghadeirlan Aberhonddu yn dechrau am 11:00 ddydd Sul, 1 Ebrill.