Grwpiau llai'n bywiogi gwasanaethau ysgol, medd Archesgob Cymru

  • Cyhoeddwyd
John Davies, Archesgob CymruFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

Mae Archesgob newydd Cymru eisiau i'r Eglwys yng Nghymru helpu rhoi bywyd newydd i wasanaethau addoli boreol mewn ysgolion, gan gredu eu bod yn gallu bod yn "ddiflas" a "digalon".

Yn ôl y Parchedicaf John Davies, a gafodd ei orseddu'n Archesgob Cymru ddechrau Rhagfyr mae annerch ysgol gyfan ar yr un pryd "her anferthol".

Fe wnaeth ei sylwadau wrth siarad â rhaglen Sunday Supplement BBC Radio Wales.

Mae'r gwasanaeth boreol traddodiadol yn aml yn cynnwys canu emynau a gweddïo, yn osgystal a chyhoeddi gwybodaeth ynglŷn â bywyd yr ysgol.

Dywedodd Mr Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu ers 2008 a thad i ddau o blant: "Un o'r pethau oedd yn eithaf diflas i mi pan oeddwn ni yn yr ysgol oedd y gwasanaeth boreol.

'Ysbrydolrwydd yn diflannu'

"Dydw i erioed wedi gweld lles gorfodi cannoedd o blant i mewn i neuadd a chymryd rhan mewn defod sy'n golygu rhywbeth i rai ond nid o reidrwydd i eraill.

"Un o'r pethau mwyaf digalon imi ei brofi pan oeddwn i yn yr ysgol yw ... pan mae ambell neges yn treiddio drwyddoch chi, a chi'n cael cyfnod o lonyddwch a thawelwch ar y diwedd, ond o fewn eiliad mae gyda chi'r cyhoeddiadau ac mae unrhyw synnwyr o ysbrydolrwydd yn diflannu."

Mae Mr Davies yn galw ar ysgolion i ystyried cynnal gwasanaethau gyda grwpiau llai gan ddweud mai dyna'r ffordd sy'n gweithio orau o'i brofiad o.

"Mae ceisio annerch ysgol gyfan lle mae gwahaniaeth oedran rhwng 11 a 18 yn her anferthol," dywedodd.