Mwy o wybodaeth am leoliadau Maes Eisteddfod Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Ddydd Sadwrn, 21 Ebrill, daeth y cyhoeddiad hirddisgwyliedig mai yn hen adeilad 'Profiad Dr Who' yn y Bae y bydd Maes B yn cael ei gynnal eleni.
Wedyn ar ddydd Mawrth, 24 Ebrill, gyda 100 diwrnod i fynd tan yr ŵyl, datgelwyd map newydd gan yr Eisteddfod yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am leoliadau rhai o fannau mwyaf poblogaidd y Maes.
Yn ôl y Prif Weithredwr, Elfed Roberts:
"Mae llawer o sôn wedi bod am y ffaith bod yr Eisteddfod eleni yn arbrofol a threfol, ac mae 'na nifer o syniadau newydd yn cael eu treialu yma, ond gallaf sicrhau pobl y bydd o'n amlwg eich bod chi ar Faes yr Eisteddfod wrth grwydro o gwmpas yn ystod yr wythnos.
Cerrig yr Orsedd
"Bydd y Llwyfan, y Pentref Bwyd a'r bariau mawr i gyd wedi'u lleoli'n hynod gyfleus yn y Roald Dahl Plass y tu allan i fynedfa Canolfan Mileniwm Cymru, a dyma le fydd lleoliad Cerrig yr Orsedd ar gyfer y seremonïau ar fore Llun a Gwener hefyd, gyda'r Cerrig yn cael eu symud yn ystod yr wythnos.
Yng Nghanolfan y Mileniwm
"Bydd y Pafiliwn, nifer o'r perfformiadau theatrig a'r Babell Lên wedi'u lleoli yng Nghanolfan y Mileniwm, a byddwn hefyd yn defnyddio rhai eraill o adeiladau eiconig y Bae er mwyn cynnal gweithgareddau."
Rôl i'r Senedd
Adeilad y Pierhead fydd cartref Shwmae Caerdydd a Dysgu Cymraeg - Learn Welsh, a lleolir Y Lle Celf eleni yn y Senedd. Bydd tair ystafell hefyd wedi'u neilltuo ar gyfer y Cymdeithasau yn adeilad y Senedd.
A'r Ganolfan Ddawns?
"Bydd amryw o'n hymwelwyr yn cofio adeilad hardd Tŷ Portland ar Stryd Biwt, ac rydym wedi bod yn ddigon ffodus i allu sicrhau'i ddefnydd ar gyfer adeilad Dawns eleni, ac mae hyn yn rhoi sgôp i ni gynnal ambell ddigwyddiad a gweithgaredd ychydig yn wahanol yn ystod yr wythnos", meddai Elfed Roberts.
Ac er na fydd yn faes traddodiadol, mae'n amlwg wrth y map bydd stondinau mewn mannau strategol a chanolog o gwmpas y prif lwyfannau, fydd yn destun rhyddhad i nifer mae'n siŵr.
Nid yw'r Eisteddfod wedi cyhoeddi prisiau y tocynnau dydd eto. Yn ôl gwefan yr Eisteddfod, dolen allanol:
"Bydd yr Eisteddfod yn gweithredu system bandiau garddwrn ar gyfer gweithgareddau'r dydd a gynhelir yn y Pafiliwn yn Theatr Donald Gordon ac yn yr is-bafiliynau a leolir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd modd archebu'r rhain ymlaen llaw neu'u prynu ar y diwrnod."
Efallai o ddiddordeb: