Cyhuddo trydydd person o lofruddio pensiynwr o Abertawe

  • Cyhoeddwyd
John WilliamsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llun camera cylch cyfyng o John 'Jack' Williams ddyddiau cyn ei farwolaeth

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 41 oed o lofruddio penisynwr yn ei gartref yn Abertawe.

Jonathan Donne o ardal Bonymaen yw'r trydydd person i gael ei gyhuddo o lofruddio John 'Jack' Williams, 67, yn Ffordd Pentre-chwyth.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron ddydd Mercher ar ôl bod o flaen ynadon Abertawe ddydd Mawrth.

Mae Gemma Owens, 31, a Simon Cairns, 45, eisoes wedi'u cyhuddo o lofruddio Mr Williams ac mae'r ddau yn y ddalfa wedi ymddangosiad llys.

Hefyd yn y ddalfa mae Faisal Kadir, 57, sydd wedi'i gyhuddo o roi lloches i droseddwr mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Darren George: "Erbyn hyn rydym wedi arestio pawb roedden ni'n chwilio amdanynt mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth, ond rydym yn dal yn awyddus i siarad gydag unrhyw un â gwybodaeth sydd heb gysylltu â ni hyd yn hyn."

Mae hefyd wedi diolch y gymuned leol am eu cefnogaeth yn ystod yr ymchwiliad.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Mr Williams ddydd Sadwrn, 31 Mawrth.