Penderfynu ymgynghori eto ar statws ysgol newydd Y Bala

  • Cyhoeddwyd
Ysgol newydd, Y Bala
Disgrifiad o’r llun,

Fe fyddai'r ysgol newydd yn agor yn 2019 yn ôl y cynllun newydd

Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad ar statws ysgol newydd yn Y Bala.

Yn 2015, fe gytunodd cynghorwyr y sir i sefydlu ysgol Eglwys £10m i blant 3-18 oed ar safle presennol Ysgol y Berwyn.

Ond yn dilyn gwrthwynebiad, fe dynnodd cabinet y cyngor eu cynnig yn ôl ym mis Mehefin, a nawr maen nhw'n cynnig rhoi statws ysgol gymunedol i'r campws newydd.

Mae'r cynnig hwn yn golygu agor yr ysgol - a chau Ysgol y Berwyn, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol Bro Tegid - ym mis Medi 2019, flwyddyn yn hwyrach na'r cynllun gwreiddiol.

Fe fydd y cyfnod o ymgynghori statudol yn cael ei gynnal o ddiwedd mis Tachwedd hyd cychwyn mis Ionawr 2018.

"Fel Cyngor, rydan ni yn canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau darpariaeth addysg o'r radd flaenaf i blant a phobl ifanc dalgylch y Berwyn," meddai Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am addysg ar gabinet Cyngor Gwynedd.

"Er na fydd y Campws yn agor yn swyddogol tan Medi 2019, mae'r gwaith adeiladu yn bwrw ymlaen yn dda ar y safle ac rydan ni'n rhagweld y bydd cyfleusterau newydd gwerth £10.27 miliwn, ar gael i drigolion lleol fanteisio'n llawn arnyn nhw o fis Medi 2018 ymlaen."