Diffiniad i berfformio ar nos Wener Eisteddfod Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Diffiniad

Un o grwpiau mwyaf poblogaidd y 90au, Diffiniad, fydd y prif artistiaid yn perfformio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Wener y Brifwyl ym mis Awst.

Mae'r trefnwyr hefyd wedi cyhoeddi mai enw swyddogol y llwyfan am y flwyddyn fydd Llwyfan y Maes BBC Radio Cymru.

Bydd Diffiniad yn ailffurfio yn arbennig ar gyfer y noson, gyda'r Eisteddfod yn dweud eu bod yn "ymateb i'r galw", ar ôl i nifer o bobl gysylltu yn gofyn am weld y band eto.

Bydd Llwyfan y Maes BBC Radio Cymru yn yn Roald Dahl Plass o flaen Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Eisteddfod

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Eisteddfod

Dywedodd Ian Cottrell o'r band: "Mae 'na alw wedi bod ar Diffiniad i ailffurfio ers blynyddoedd bellach, ond doedd yr amser byth yn iawn.

"Roedden ni i gyd yn teimlo bod angen i ni ddisgwyl am y cyfle iawn cyn cytuno i berfformio fel grŵp eto.

"Ar ôl i Eden berfformio yn y slot yma yn yr Eisteddfod y llynedd, roedden ni'n gwybod mai hwn oedd y slot iawn i ni fel band hefyd, a phan ddaeth yr Eisteddfod atom ni, roedd yn gyfle rhy dda i'w golli - mae'n dipyn o beth cael dilyn ôl troed artistiaid fel Edward H, Geraint Jarman a Huw Chiswell."

Dywedodd Sioned Edwards, sy'n trefnu gweithgareddau cerddorol yr Eisteddfod, bod "cymaint o bobl wedi cysylltu gyda'r Eisteddfod yn y gobaith mai Diffiniad fydd yn ymddangos yn y slot yma nos Wener, a dyma ymateb i'r galw drwy ofyn iddyn nhw ailffurfio i berfformio ar y Llwyfan".

"Mae'u caneuon nhw'r un mor gofiadwy ag erioed, ac fe fydd yn gyfle i ni i gyd gamu 'nôl i'r 90au a mwynhau rhai o glasuron y sîn Gymraeg.

"Alla i ddim aros i'w gweld nhw'n perfformio eto!"

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod wedi cyhoeddi map yn amlinellu ble yn y Bae fydd yr holl weithgareddau a stondinau

Fe gyhoeddodd yr Eisteddfod Genedlaethol hefyd y bydd BBC Radio Cymru yn noddi llwyfan y maes eleni.

Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Mae Llwyfan y Maes BBC Radio Cymru wedi'i osod yn y lleoliad perffaith yn Roald Dahl Plass o flaen Canolfan Mileniwm Cymru, a bydd yn sicr yn gyfle i gynulleidfa selog yr Eisteddfod ynghyd â chynulleidfa newydd ac anghyfarwydd i alw draw yn rhad ac am ddim i fwynhau bandiau a pherfformwyr gorau Cymru o ganol dydd tan yn hwyr gyda'r nos."

Ychwanegodd Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: "Bydd yr wythnos yn uchafbwynt i'n teithiau haf ni ac mae'r bartneriaeth hon yn gyfle arall i ni a'n cyflwynwyr gysylltu'n uniongyrchol gyda'n cynulleidfa, ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o Eisteddfod drefol ac arbrofol Caerdydd ym mis Awst eleni."