Cystadleuaeth i hybu'r defnydd o'r Gymraeg ymhlith plant
- Cyhoeddwyd
Mae cystadleuaeth i blant cynradd ennill gwyliau byr i'r teulu yn Llangrannog, dolen allanol neu Glan-llyn, dolen allanol wedi ei lansio, gyda'r prif nod o sicrhau bod plant yn defnyddio'r Gymraeg wrth gymdeithasu.
Mae'r gystadleuaeth gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi eu rhaglen Siarter Iaith, dolen allanol.
Yr hyn sy'n rhaid i blant ei wneud yw chwilota am sticeri arbennig sydd wedi eu gosod yn ffenestri busnesau Pwllheli, Abertawe a'r Bont-faen.
Mae busnesau yn y tair tref wedi gosod sticer yn cynnwys cymeriadau y Siarter Iaith, Seren a Sbarc, yn eu ffenestri.
'Defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol'
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap a bydd yn derbyn gwyliau byr i deulu yng nghanolfan weithgareddau awyr agored Glan-llyn, Y Bala, neu yng nghanolfan weithgareddau Llangrannog.
Mae'r wobr wedi cael ei rhoi gan fudiad yr Urdd.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan: "Cyflwynwyd y Siarter Iaith er mwyn annog plant i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol.
"Trwy lansio'r gystadleuaeth hon mewn tair tref, rydym yn ymgysylltu â busnesau lleol ac yn ymestyn y cyfleoedd hyn i ddefnyddio'r Gymraeg hyd yn oed ymhellach.
"Bydd y busnesau sy'n cymryd rhan yn cael eu hannog i siarad â phlant sy'n ymweld â nhw yn Gymraeg, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o eiriau neu ymadroddion sydd ganddynt."
Mae Daniel a Jadie Hart, sy'n ddi-Gymraeg, yn byw yn Abertawe gyda'u tri phlentyn, Joshua, Kailen a Faye.
Mae Joshua yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gŵyr a Kailen a Faye yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin.
Dywedodd Daniel Hart: "Dwi'n meddwl y gallai busnesau'n wneud mwy i hyrwyddo siarad Cymraeg.
"Fodd bynnag, rwy'n credu fod perchnogion busnesau di-Gymraeg yn ofni cyfarch pobl sy'n defnyddio'r iaith rhag ofn y bydd yn arwain at gymryd yn ganiatáol y byddant yn gallu siarad â'r cwsmer yn hollol rhugl.
"Gobeithio y bydd clywed mwy o bobl yn siarad Cymraeg mewn busnesau lleol yn annog ein plant i siarad mwy o Gymraeg y tu allan i'r ysgol."
Dywedodd Bethan Roberts sy'n berchen ar fusnes Oriel Pwlldefaid ym Mhwllheli: "Roeddwn i'n awyddus i'r busnes gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon gan fy mod i'n cefnogi unrhywbeth sy'n ceisio hybu'r defnydd o'r Gymraeg.
"Er bod plant yr ardal i gyd yn deall ac yn gallu siarad Cymraeg, dwi yn gweld rhai plant y dyddiau yma yn dueddol o ddechrau eu sgyrsiau yn Saesneg yn hytrach na'r Gymraeg.
"Ond unwaith i chi siarad â nhw yn y Gymraeg, maent yn newid yn syth."
O 30 Ebrill-7 Mai, gall blant dynnu llun o un neu fwy o'r sticeri a'u rhannu gyda'r hashnod #SiarterIaith ar dudalennau Facebook ac Instagram 'Cymraeg', ar Twitter @Cymraeg, neu drwy ebostio cymraeg@llyw.cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Awst 2016
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2017