Gwasanaethau gofal Powys 'angen gwella'
- Cyhoeddwyd
Mae angen cyflwyno gwelliannau sylweddol i wasanaethau gofal oedolion ym Mhowys, yn ôl arolygwyr.
Dywed adroddiad gan Arolygaeth Gofal Cymru nad oedd lefel y cymorth yn gyson a bod oedi wedi bod wrth asesu rhai pobl.
Daw'r sylwadau yn sgil adroddiad beirniadol y llynedd o wasanaethau plant yn y sir.
Dywedodd arweinydd Cyngor Powys, Rosemarie Harris, fod gwelliannau eisoes wedi eu cyflwyno a bod £6.5m yn cael ei wario dros gyfnod o 12 mis i gynyddu nifer y staff mewn gwasanethau rheng flaen.
Cafodd yr arolwg o wasanaethau oedolion ei gynnal ym mis Ionawr.
Yn ogystal â diffyg cysondeb o ran lefelau cymorth, dywed yr arolygwyr fod yna "oedi sylweddol" wedi bod wrth asesu a sicrhau gofal i rai oedolion bregus.
Ond fe wnaeth yr adroddiad hefyd roi clod i ymroddiad staff yn wyneb cyfyngiadau ariannol a bod yna "gydweithredu da gyda'r sector wirfoddol a grwpiau cymunedol."
Dywedodd Ms Harris eu bod yn cydnabod fod angen gwneud gwelliannau a bod y gwaith hynny eisoes wedi dechrau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2017