Cymru i gystadlu yn fersiwn ieuenctid Eurovision

  • Cyhoeddwyd
Junior EurovisionFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gystadleuaeth ar gyfer perfformwyr rhwng naw a 14 oed

Fe fydd Cymru'n cystadlu fel cenedl unigol am y tro cyntaf eleni yn fersiwn ieuenctid o gystadleuaeth enwog Eurovision.

Bydd S4C yn darlledu'r Junior Eurovision Song Contest yn fyw o ddinas Minsk yn Belarus ar 25 Tachwedd.

Mae'r gystadleuaeth ar gyfer perfformwyr rhwng naw a 14 oed, ac fe gafodd ei gwylio ar y teledu y llynedd gan 2.6m o bobl mewn 15 o wledydd.

Cymraeg fydd iaith y gân ac fe fydd cynrychiolydd Cymru'n cael ei ddewis drwy bleidlais gyhoeddus mewn rhaglen deledu i'w darlledu yn yr hydref.

Rhwng dydd Iau a 22:00 ar 3 Mehefin, mae S4C a'r cwmni cynhyrchu Rondo Media yn gwahodd perfformwyr i gofrestru ar gyfer cyfres o glyweliadau, dolen allanol ym mis Mehefin.

Does dim rhaid i'r perfformiwr fod yn rhugl yn y Gymraeg, er mai dyna fydd iaith y gân fydd yn cael ei chanu yn y gystadleuaeth.

Mae'r gwahoddiad yn agored i holl bobl ifanc Cymru ac ar gyfer perfformwyr unigol neu grwpiau o hyd at chwech.

Bydd tair rhaglen yn yr hydref yn dilyn y broses o ddod o hyd i sêr ifanc, gyda chyfle i'r cyhoedd ddewis eu ffefryn allan o chwe pherfformiad i gystadlu yn Minsk ar 25 Tachwedd.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Y mentoriaid Stifyn Parri, Connie Fisher a Tara Bethan gyda'r cyflwynydd Trystan Ellis Morris

Fe fydd tri mentor profiadol - Connie Fisher, Tara Bethan a Stifyn Parri - yn rhoi gymorth i'r cantorion ifanc.

"Ar flwyddyn gyntaf Cymru yn y gystadleuaeth, 'da ni eisiau creu argraff fawr," meddai cyflwynydd y gyfres, Trystan Ellis-Morris.

"Y llynedd roedd 16 o wledydd yn cystadlu yn y Junior Eurovision Song Contest, ac mae mwy eto wedi cofrestru ar gyfer y llwyfan eleni.

"Mi fyddwn yn taflu'r rhwyd yn eang er mwyn chwilio am y talent gorau posib. Da' ni isho gweld y gorau o blith y gorau sydd gan Gymru i'w gynnig!"

'Mwy na'r X-Factor, Britain's Got Talent... a'r Eisteddfod Genedlaethol!'

Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C: "Alla i ddim peidio â chynhyrfu wrth feddwl am y cyfle anhygoel sydd ar gael i'n pobl ifanc ni i ganu dros Gymru yn y Junior Eurovision Song Contest.

"'Da ni'n ofnadwy o falch ein bod ni'n rhoi'r cyfle i brofi perfformio ar lwyfan nad oes tebyg iddi yng Nghymru na Phrydain.

"Mae hwn yn fwy na'r X-Factor, mae'n fwy na Britain's Got Talent, mae'n fwy na'r Eisteddfod Genedlaethol hyd yn oed!

"Ym mis Tachwedd, mi fydd llygaid Ewrop wedi eu hoelio ar Minsk, ac yno yn ei chanol mi fydd Cymru, y Ddraig Goch a'r iaith Gymraeg. Mae hynny yn destun balchder mawr i mi ac i S4C.

Ffynhonnell y llun, S4C/EBU
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cymru'n rhan o gystadleuaeth corau Eurovision o'r un cyntaf un yn Latfia y llynedd

Cafodd y Junior Eurovision Song Contest ei chynnal am y tro cyntaf yn Copenhagen yn 2003.

Mae'n rhan o deulu o gystadlaethau ac mae'r un amlycaf, yr Eurovision Song Contest, yn cael ei chynnal y penwythnos yma yn Lisbon.

Mae hefyd yn cynnwys yr Eurovision Choir of the Year a gafodd ei chynnal am y tro cyntaf y llynedd yn Riga, Latfia.

Daeth Côr Merched Sir Gâr yn ail ar ran Cymru ar ôl dod yn fuddugol yng nghystadleuaeth Côr Cymru 2017.

Yn wahanol i'r Eurovision Song Contest, does dim rhaid i'r wlad fuddugol gynnal y gystadleuaeth y flwyddyn ganlynol.