Cymro'r Love Island
- Cyhoeddwyd
Unwaith eto eleni, mae un o gystadleuwyr y gyfres deledu Love Island ar ITV2 yn Gymro Cymraeg.
Mae Alex George, sy'n ddoctor o Sir Gaerfyrddin yn un o'r rhai sy' ar ynys yn yr haul yn trio dod o hyd i gariad - ac hynny o flaen miliynau o bobl.
Y llynedd cafodd Cymraeg ei glywed ar y gyfres wrth i Amber Davies o Ddinbych gymryd rhan, a mynd ymlaen i ennill gyda'i phartner ar y pryd, Kem.
Cyhoeddodd ITV2 yr wythnos hon, bod rhaglen agoriadol y gyfres ddiweddara' nos Lun wedi torri record am y gynulleidfa uchaf i'r sianel erioed.
Un o'r rhai oedd yn gwylio am y tro cyntaf oedd Gethin Thomas, cyn-brifathro Ysgol Natgaredig, lle bu Alex yn ddisgybl am saith mlynedd.
"Dydy hon ddim y math o raglen fydden i'n ei gwylio fel arfer, ond fe wnes i wylio'r rhaglen nos Lun o ran diddordeb, oherwydd y cysylltiad â Alex," meddai Mr Thomas oedd yn cofio Alex yn cychwyn yn y dosbarth meithrin.
"Ro'n i'n gallu ei adnabod e o'r atgof sydd gen i ohono fe'n yr ysgol."
Hyd yn hyn dydy Alex George ddim wedi cael y cychwyn gorau i'r gyfres.
Ni chafodd ei ddewis gan yr un o'r merched i fod mewn cwpwl ag ef, ac ar y rhaglen nos Fawrth roedd Alex yn dangos ei fod wedi cael digon.
"Mae Alex yn berson tawel, cymwynasgar a chynnes iawn a tystiolaeth o hynny yw bod ei gyfoedion o'r ysgol yn dweud eu bod nhw'n llawn edmygedd ohono fe a'i fod e heb anghofio ei wreiddiau.
"Dwi'n meddwl oherwydd ei allu y bydd e dipyn yn fwy doeth na'r cystadleuwyr eraill.
"Mae e'n alluog iawn ac wrth gwrs cafodd hynny ei adlewyrchu ymhellach ymlaen yn ei fywyd wrth iddo fe astudio meddygaeth yn y brifysgol a dod yn ddoctor parchus.
"Fydden i ddim wedi meddwl ei fod e'r math o gymeriad i fynd ar Love Island, efallai ei fod yn chwilio am enwogrwydd, ond dwi'n dymuno pob llwyddiant iddo fe. Mae ei ddyfodol yn sicr yn y byd meddygol a dwi'n gobeithio y bydd ei yrfa yn mynd o nerth i nerth.
"Mae hwn yn gyfnod arbrofol iddo fe, fel mae llawer o ieuenctid yn 'neud, ond fel mae'r dywediad yn dweud: 'profwch bob dim ond glynnwch at yr hyn sy'n dda'.
"Gobeithio y geith e amser da a bydd pobl yn garedig wrtho fe yna, ond i gadw ei ben yn uchel a meddwl am ei ddyfodol."
Hefyd o ddiddordeb: