Carwyn Jones: Cymru 'i elwa o ehangu Heathrow'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn cefnogi cynlluniau Llywodraeth y DU i greu trydedd llain lanio ym maes awyr Heathrow.
Dywedodd Carwyn Jones wrth BBC Cymru mai dyna oedd y "penderfyniad cywir" ac y byddai'n dod a buddion i Gymru a rhannau eraill o orllewin Prydain.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, fod hwn yn gyfle "unwaith mewn oes" i fusnesau Cymreig, a'i fod hefyd yn hollol gefnogol o'r cynlluniau, er bod rhai aelodau eraill o'r cabinet yn eu gwrthwynebu.
Dywedodd Mr Jones: "Mae Cabinet Llywodraeth Prydain wedi gwneud y penderfyniad, a hwnnw ydy'r penderfyniad cywir.
"A fyddan nhw'n cadw at y penderfyniad hwnnw? Wel mae hynny'n gwestiwn arall."
O ran Cymru, dywedodd ei bod hi'n "bwysig ble mae'r datblygiad yma, ac nad yw e'r ochr arall i Lundain ble byddai mynediad yn anoddach i ni."
Dywedodd Mr Cairns: "Mae gan Gymru gyfle euraidd i chwarae eu rhan yn sicrhau bod un o'r datblygiadau rhwydweithiol mwyaf cyffrous ers degawdau yn gweld golau dydd.
"Drwy ehangu Heathrow, fe allwn ni sicrhau mynediad i bob rhan o Brydain i'r economi fyd-eang, gan ddangos ein bod ni'n agored i fusnes, yn hyderus ynglŷn â phwy ydyn ni fel gwlad, a'n bod yn barod i fasnachu gyda gweddill y byd."
Bydd pleidlais ar y cynlluniau yn San Steffan o fewn yr wythnosau nesaf, ond mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn disgwyl y byddan nhw'n wynebu sawl her gyfreithiol ar sail amgylcheddol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018