95% o staff Parc Cenedlaethol Eryri'n siarad Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
carneddauFfynhonnell y llun, Parc Cenedlaethol Eryri

Mae ffigyrau newydd wedi dangos bod dros 95% o staff Parc Cenedlaethol Eryri yn siaradwyr Cymraeg rhugl.

Dywedodd awdurdod y parc mewn cyfarfod ddydd Mercher mai dim ond saith o'u 143 aelod o staff oedd ddim yn gwbl ddwyieithog.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth y parc hysbysebu 20 o swyddi, gyda phob hysbyseb yn dweud fod y Gymraeg yn sgil 'angenrheidiol' ar ei chyfer.

"Fel awdurdod, rydyn ni'n falch iawn bod cymaint o'n staff ni'n siarad Cymraeg," meddai llefarydd ar ran y parc.

'Trin yn gyfartal'

"Mae'r iaith Gymraeg yn un o nodweddion arbennig Parc Cenedlaethol Eryri ac mae gennym ddyletswydd i'w gwarchod a'i hyrwyddo.

"Yn y gorffennol, mae'n polisi iaith wedi'n galluogi ni i normaleiddio gwasanaethau iaith Gymraeg, sy'n golygu bod trigolion y Parc Cenedlaethol nawr yn gwybod bod gwasanaeth yn y Gymraeg ar gael iddyn nhw'n awtomatig.

"Mae'r gallu i gyfathrebu gyda thrigolion Eryri yn yr iaith o'u dewis nhw yn bwysig iawn i ni.

"O ran ein prosesau mewnol, mae'r Saesneg a'r Gymraeg yn cael eu trin yn gyfartal ac er ei bod weithiau'n gallu bod yn anodd penodi staff Cymraeg i swyddi arbenigol yma, rydyn ni'n falch o ddweud ar y cyfan ein bod yn llwyddiannus iawn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd Parc Cenedlaethol Eryri ei sefydlu yn 1951, ac mae'n ymestyn ar draws 827 milltir sgwâr o dir yn siroedd Gwynedd a Chonwy, gyda phoblogaeth o 26,000 yn byw o fewn y parc.

Mae'r canran o 95% o staff yr awdurdod sy'n siarad Cymraeg yn uwch na lleoliad eu pencadlys ym Mhenrhyndeudraeth (76%) a'r parc ei hun, ble mae 58.6% yn medru'r iaith.

Ers blynyddoedd mae'r awdurdod wedi bod yn gweithredu'n ddwyieithog, gyda staff sy'n delio â'r cyhoedd yn medru'r Gymraeg a'r Saesneg.

Mae gweithwyr sydd ddim yn medru'r Gymraeg hefyd yn cael eu hannog i ddysgu'r iaith drwy gyrsiau a hyfforddiant yn ystod oriau gwaith.