M4: Ymchwiliad cyhoeddus wedi costio dros £11m

  • Cyhoeddwyd
M4 Sign

Mae'r ymchwiliad cyhoeddus i gynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd wedi costio dros £11m.

Dechreuodd yr ymchwiliad ym mis Chwefror y llynedd gan orffen casglu tystiolaeth ym mis Mawrth eleni.

Mae'r costau yn cynnwys dros £1m ar ffioedd cyfreithiol a bron £9m mewn ffioedd proffesiynol.

Daeth y ffigyrau i law wedi cais gan BBC Cymru o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Mae cyfanswm y gost, £11,465,242, yn cynnwys:

  • Arolygwyr annibynnol - £445,708

  • Tîm yr Arolygydd - £89,865

  • Costau cyfreithiol - £1,128,761

  • Ffioedd proffesiynol - £8,728,553

  • Gweinyddiaeth - £1,072,354.

Bydd y ffigwr yn cynyddu wrth i gostau'r arolygydd a'i dîm barhau hyd nes y bydd yr adroddiad yn cael ei gwblhau - mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2018.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o'r ffordd newydd, fyddai'n rhoi hwb i economi'r ardal, meddai cefnogwyr

Fe dderbyniodd yr ymchwiliad 335 o wrthwynebiadau ffurfiol, a 192 llythyr o gefnogaeth.

Mae nifer o gyrff amgylcheddol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, yn erbyn y ffordd newydd.

Cefndir

Mae Llywodraeth Cymru am adeiladu rhan newydd 14 milltir o hyd i'r M4 i'r de o Gasnewydd. Byddai hynny'n golygu pont newydd dros Afon Gwy ac adnewyddu cyffyrdd 23 a 29 o'r M4 presennol.

Y nod yw lliniaru problemau traffig ar y draffordd i'r gogledd o'r ddinas, yn enwedig yng nghyffiniau twnnelau Brynglas.

Mae cefnogwyr yn dweud y byddai'n rhoi hwb i'r economi drwy wella mynediad i gludiant nwyddau i mewn ac allan o dde Cymru.

Roedd tri llwybr posib i'r ffordd, ond y "llwybr du" gafodd ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru.

Cafodd yr ymchwiliad cyhoeddus ei gyhoeddi gan Ken Skates AC yn 2016 er mwyn ystyried a oedd y llwybr du yn cynnig gwerth am arian.