Teyrngedau i ddau fu farw mewn damwain awyren

  • Cyhoeddwyd
Martin Bishop a Roderick WeaverFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Martin Bishop a Roderick Weaver yn y ddamwain ddydd Sul

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddau ddyn fu farw mewn damwain awyren ysgafn yn Sir Fynwy ddydd Sul.

Bu farw Martin Bishop, 61 oed o'r Fenni, a Roderick Weaver, 68 o Gaerdydd, yn y digwyddiad ger Rhaglan am 11:15.

Dywedodd teuluoedd y ddau eu bod wedi marw yn gwneud yr hyn roedden nhw'n ei garu.

Mae tîm o Gangen Ymchwiliadau Damweiniau Awyr yn arwain yr ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymchwiliad wedi'i lansio i geisio darganfod beth oedd achos y ddamwain

Mewn datganiad fe wnaeth teulu Mr Bishop ei ddisgrifio fel "mab, brawd, gŵr ac ewythr cariadus", gan ychwanegu y bydd "yn cael ei golli'n fawr gan bawb".

Ychwanegodd teulu Mr Weaver ei fod yn ŵr, tad, tad-cu a brawd annwyl.