200 'wedi gorfod stopio gweithio' i ofalu am berthynas

  • Cyhoeddwyd
Gofalwr yn cydio yn llaw person oedrannus

Mae bron i hanner y bobl sy'n gofalu am aelod o'r teulu yng Nghymru wedi gorfod gadael eu swyddi, yn ôl ymchwil gan Carers Wales.

Yn ôl yr elusen fe wnaeth 47% o ofalwyr gafodd eu holi stopio gweithio yn gyfan gwbl y llynedd.

Daw'r ffigyrau wrth i un sy'n gweithio yn y maes rybuddio bod angen gwneud rhywbeth yn fuan iawn er mwyn rhwystro'r sefyllfa rhag troi'n argyfwng.

Mae'r ymchwil hefyd yn awgrymu fod 70% o'r rhai a gafodd eu holi yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, a 60% yn dweud bod eu hiechyd corfforol wedi gwaethygu'n sylweddol.

Mae'r elusen yn lansio cynllun newydd - sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru - sy'n rhoi cyngor i gyflogwyr sut y gallen nhw helpu'r 181,135 o bobl yng Nghymru sy'n gweithio a gofalu am aelodau o'r teulu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Claire Morgan fod angen i gyflogwyr fod yn fwy hyblyg i atal staff profiadol rhag gadael eu swyddi

"Mae gofalwyr yn gallu bod dan straen aruthrol yn gorfod gweithio a gofalu ar yr un pryd," meddai Claire Morgan, cyfarwyddwr Carers Wales.

"Mae hynny'n gallu arwain at or-bryder ac iselder, felly rydym eisiau annog cyflogwyr i ddangos cydymdeimlad â'r gofalwyr o blith y gweithlu.

"Fe allen nhw annog pobl i weithio'n hyblyg, annog rheolwyr llinell i fod yn sympathetig i anghenion gofalwyr ac annog gofalwyr o fewn y gweithlu i siarad gyda'i gilydd a chefnogi'i gilydd."

'Rhaid buddsoddi rŵan'

Yn ôl Cyfarwyddwr Prosiect Gofalwyr Abertawe, Ifor Glyn mae angen mwy o gyllid ar frys i roi cymorth i bobl sy'n gofalu am berthynas.

Dywedodd: "Dwi'n meddwl yn bendant mae'r broblem yn eithaf difrifol. Mae'n bwysig bod ni'n gwneud rhywbeth rŵan i stopio'r sefyllfa rhag mynd yn grisis.

Disgrifiad,

Mae Ifor Glyn yn dweud bod yna beryg i'r sefyllfa fynd yn "grisis" oni bai bod yna fuddsoddi

"'Da ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn dod yn ofalwyr. 'Da ni yn gweld hefyd mwy a mwy o bobl yn heneiddio, mwy a mwy o bobl angen ryw fath o ofal ac yn anffodus 'da ni yn gweld lleihad yn y nifer o adnoddau sydd yn cael eu rhoi i'r gwasanaeth iechyd a gofal gwasanaethau cymdeithasol.

"Os ydan ni isio stopio'r broblem fynd yn grisis mae'n rhaid i ni fuddsoddi rŵan ac edrych ar y sefyllfa rŵan, yn hytrach na gadael iddi fynd am flynyddoedd tra mae hi yn broblem."

Mae Mr Glyn am weld mwy o lefydd fel Tŷ Conway, yn ardal Penlan y ddinas - canolfan sy'n rhoi cyfleoedd i bobl sy'n byw gyda chyflyrau fel dementia gymdeithasu dan ofal staff hyfforddedig - a seibiant i'r gofalwyr arferol.

Dywed Sharon Sherlock ei bod yn treulio'r holl amser nad ydy hi yn y gwaith yn gofalu am ei merch, Lexi, sy'n awtistig ac yn cael pyliau or-bryder.

Mae cefnogaeth ei chyflogwr, British Gas yn gwneud "gwahaniaeth mawr", meddai, wrth iddi hi a'i gŵr orfod newid shifftiau a threfniadau er mwyn delio â sefyllfaoedd sy'n codi.

"Falle bod apwyntiad yn cymryd dwy awr - ma' nhw'n rhoi awr i fi a dwi'n cymryd awr o 'ngwylia'," meddai. "Ond 'di o'm yn hawdd achos dwi'n gweithio mewn tîm bychan.

"Ma'r ffordd ma' British Gas yn gweithredu yn golygu dwi'n gallu bod yn hyblyg iddyn nhw fel diolch am iddyn nhw fod yn hyblyg 'efo fi."

"Does 'na ddim gofal plant i blant efo anghenion fel Lexi... so 'da ni angen bod adra 'efo hi pan 'di hi ddim yn yr ysgol.

"'Dwi'n nabod o leia' tri o bobl sydd wedi gadael eu gwaith yn y flwyddyn ddwytha'. Weithia' 'efo plant 'efo anghenion arbennig, os oes 'na broblem yn yr ysgol maen nhw'n gorfod gadael gwaith a 'di rhai cyflogwyr ddim yn gallu delio efo hynny.

"'Dyn nhw'm yn ca'l sac, ma' nhw'n mynd achos ma' nhw'n poeni be ma'r cyflogwr yn mynd i neud iddyn nhw a jyst rhoi'r ffidil yn y to."

Profiad cyflogwr

Mae Helen Walbey, rheolwr gyfarwyddwr cwmni Recycle Scooters yn Aberdâr yn cyflogi tri pherson ac yn dweud ei bod yn bosib i fusnesau bach fod yn fwy hyblyg.

"Mae yna newidiadau rhesymol i sicrhau fod staff yn gallu parhau i weithio, er enghraifft, fe allen nhw gychwyn yn hwyrach, cael amser cinio byrrach neu orffen yn hwyrach.

"Ond does gan berchnogion busnesau bach ddim llawer o amser felly maen nhw angen gwybodaeth syml, hawdd ei ddeall am y ffordd orau i gefnogi gofalwyr."

Dywedodd y gweinidog gofal cymdeithasol, Huw Irranca-Davies y byddai'n annog pob corff i ymaelodi â'r cynllun a fydd yn rhoi canllawiau arbenigol a chyngor cyfreithiol ar sefydlu polisïau i gefnogi gofalwyr.