Pennaeth CBAC yn 'deall' pryder nad yw'n siarad Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth newydd prif gorff arholi Cymru wedi dweud ei fod yn deall pryderon undeb athrawon ynglŷn â'r ffaith nad yw'n siarad Cymraeg.
Ymunodd Roderic Gillespie â CBAC ddechrau Mehefin o fwrdd arholi Cambridge International, ac yn y gorffennol bu'n gweithio i Awdurdod Cymwysterau'r Alban.
Pan gafodd ei benodi dywedodd undeb UCAC eu bod yn siomedig nad oedd siaradwr Cymraeg wedi ei dewis i'r swydd.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Gillespie byddai cyd-weithwyr sy'n siarad Cymraeg yn rhoi cymorth iddo wrth gefnogi'r iaith.
CBAC sy'n gosod arholiadau TGAU a Safon Uwch i fwyafrif helaeth ysgolion Cymru ac mae'n cyflogi tua 400 o staff.
Am 'geisio' dysgu
Pan gafodd Mr Gillespie ei benodi yn gynharach eleni, dywedodd UCAC y dylai prif weithredwr un o'r sefydliadau pwysicaf yn y byd addysg yng Nghymru allu cyfathrebu gydag ysgolion a cholegau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Wrth ymateb, dywedodd Mr Gillespie: "Fe fydden ni yn hoffi tawelu meddwl pobl sydd wedi codi'r mater, fy mod yn llawn sylweddoli heriau addysg ddwyieithog.
"Dwi'n cefnogi dwyieithrwydd. Mae dwyieithrwydd yn ychwanegu sawl peth o safbwynt dysgu, deall persbectifau.
"Felly dwi'n cefnogi'r angen am ddiwylliant, cymdeithas, treftadaeth - mae'n hollbwysig ar gyfer gwlad - dyna sy'n gwneud gwlad."
Heb ymrwymo i wneud hynny, dywedodd y byddai'n ceisio dysgu'r iaith. Ond dywedodd hefyd bod yna nifer o siaradwyr iaith gyntaf o fewn CBAC.
"Felly o safbwynt gwrando ac ymwneud gyda chyfoedion, mae mwy na digon o bobl yma ar draws y sefydliad sydd yn deall ac yn cefnogi'r iaith.
"Dyna yw un o'i phrif amcanion, mae'n rhan o'n datganiad cenhadaeth ac mae llawer o bobl yn y sefydliad fydd yn gallu fy nghefnogi gyda hyn a fy nghynghori."
'Rhaid gwneud fy ngwaith cartref'
Tra'n gweithio yn Awdurdod Cymwysterau'r Alban roedd gan Roderic Gillespie rôl flaenllaw wrth ddatblygu cymwysterau i gydfynd â'r cwricwlwm newydd yno.
Dywedodd bod gwersi o'r Alban wrth gyflwyno cwricwlwm newydd yng Nghymru, gan gynnwys esbonio'r newidiadau a chynnig arweiniad i athrawon.
"Mae athrawon eisiau rhyddid ond mae nhw eisiau cyfarwyddyd clir iawn iawn o ran disgwyliadau - beth ydyn ni'n disgwyl gan athrawon ac eglurder o ran y cyfarwyddyd i athrawon yn y 'stafell ddosbarth - dyna'r man cychwyn."
Mae ei brofiad o ddiwygio addysg yn werthfawr, meddai, ond byddai'n ymdrechu i ddeall y cyd-destun Cymreig.
"Mae'n rhaid i fi wrando, a gwneud fy ngwaith cartref, mae'n rhaid i fi greu cysylltiadau a phobol- deall y cyd-destun yw popeth", dywedodd Mr Gillespie.
"A dyna mae'n debyg yw fy her pennaf sef deall y cyd-destun."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2018